Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Lleoedd yn Mon.

99

Ystyrid ef y goreú o bawb am stori gron, Ond iddo gael ei bibell, a dawnsio blaen ei ffon , Mae ' n noson 'stomus heno , " dywedai nhaid yn syn , “ Eiff pawb i'w gwely'n gynar, ond Will ac Wmffra 'r Glyn : " " Maent hwy o eppil— " Lleidr Dyfrydog ' sydd yn awr Mewn cae yn ymyl Clorach , yn golofn gareg fawr, Pan glywo'i glustiau cerig y gloch yn tincian saith ,

Mi glywais, rhedai 'r lleidr o gylch y cae dair gwaith . Ychydig oedd o lyfrau yn oes hen daid fy nhad, Yohydig fedrai ddarllen pryd hyny yn y wlad :

Ceid Beibl a Llyfr Gweddi mewn Eglwys yn mhob.plwy ', Yn rliwym wrth ddur gadwyni, i'w diogelu hwy .

Yn Eglwys Llandyfrydog , 'roedd amryw lyfrau da At esmwythau y llwythog , a gwella'i fynwes gla ; A byddai Will llaw flowog- deulu Wmffra 'r Glyn , Yn myned yno weithiau i'w darllen y pryd hyn ; Ond gwelwyd ef rhyw noswaith yn tori drwy y ddôr I fewn, gan chwilio'r gangell yn Nheml lân yr for , Gan wneuthur sypyn trefnus o'r llestri cymun drud ,

Yn morethyn cochyr allor - a'r llyfrau ynddo'n nghyd . Ar ol eu rhwymo ' n drefnus wrth denyn or ei gofn ,

Daeth ymaith nerth ei sodlau dros gamdda'r gareg lotn, Nes myn'd i feusydd Clorach lle'r 'roedd ffynonau'r Saint, A gwelai ysbryd Mynach , fel derwen fawr o faint, Yn dyfod i'w gyfarfod , gan grynu'r llawr a'i draed ,

Nes oedd ei wallt yn sefyll, a chwyddaiwythigwaed ; Gofynai Will, “ Pwy ydwyt" gan roddi erchyll reg ; Ond yn y fan nis gallodd byth gau yn ol ei geg .

Tarawyd efa'r llyfran, yn golofn gareg gref, Lle gwelir ef hyd heddyw yn nod o wg y net: A chylywais na bu llwyddiant i un o'i eppil byth ,

Fod ysbryd drwg Llanallgo, yn gwneyd y teulu’n nyth . D. M. AUBREY (Meilir Mon. )

Yn agos i'r

maon yma,mewn fferm o'r enw Clorach ,

y mae dwy ffynon yn cael eu galw Ffynon Cybi, a Ffyn on Seiriol. Tardda yr enwau oddiwrth St. Cybi a St. Seiriol, -noddwyr Caergybi ac Ynys Seiriol. Dywedir y byddai y ddau sant yn arfer cyfarfod yma ar amserau penodedig, i ymgynbori pa fodd oreu i ddwyn achos crefydd yn mlaen yn y wlad ; ac anog ou gilydd i gariad a gweithredoedd da. Achan y byddai yr haul yn wastad i wyneb Cybi wrth ddyfod yn y bor od, ac wrth ddychwelyd yn yr hwyr, ac yn Wastad