gefn Seiriol wrth fyned a dychwelyd: felly galwyd y neill "Seiriol Wyn," a'r llall yn "Cybi Felyn," medd traddodiad. Ac, oherwydd yr arferiad yma y galwyd y ffynonau wrth yr enwau blaenorol.
Coed Goleu.—Bu yma frwydrau gwaedlyd gan y Brythoniaid a'r Daniaid oddeutu y fl. 872. Gelwir hi weithiau Bangoleu yn Môn. Tybia y Parch. O. Jones, yn "Hanes y Cymry," mai yn nghymydogaeth Pen y Greigwen y cymerodd hon le; ond fod y fuddugoliaeth wedi ei henill gan Rhodri yn y lle a elwir Manegid yn Môn.
Y mae Coed Goleu wedi derbyn yr enw oddiwrth Bangoleu, yr hwn fu yn gwersyllu yma. Ceir amryw leoedd yn terfynu ar y plwyf hwn sydd wedi derbyn eu henwau oddiwrth y frwydr hen—Bryn goleu, oddiwrth Bangoleu; Gadfa, oddiwrth y frwydr; Pant y moch, oddiwrth Pant yr Och. Yn agos i Tre'r Beirdd y mae colofn fawr a elwir Maenaddwyn, h.y., colofn fendigedig; neu hawddgar-saif yn uchel iawn; tybia Mr. Rowlands ei bod yn un o'r Meini Gwyr.
PLWYF GWREDOG.
Mae y plwyf yma yn sefyll oddeutu milldir i'r deddwyrain o Lanerchymedd. Dywed un awdwr fel hyn am ei darddiad:—"The name may be derived either from gwar (gwareddawg),-tame, mild, gentle; or from gwaered, a declevity." Cysegrwyd yr eglwys i St. Mair.
PLWYF COEDANA.
Saif y plwyf hwn rhwng Llangefni a Llanerchymedd. Tardda yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Anne, neu Aneu, neu Anef ap Caw Cawlwyd.