Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond dywed eraill mai boneddiges Gymreig o'r enw Anne ydoedd. Hefyd, tardda oddiwrth lwyn o goed. Yr ystyr yw "Llwyn, neu Goedwig raslawn."

PLWYF CEIDIO.

Mae y plwyf hwn yn gorwedd oddeutu milldir o Lanerchymedd, wrth neu ar lan yr afon Alaw, yn agos i Ty Croes, neu Capel Cybi, heb fod yn mhell o Bryn Gwallon.

Bu yn cael ei alw "Rhodwydd Ceidio." Tarddai oddiwrth gae agored—the open course, or open field of Ceidio. Cysegrwyd yr eglwys i St. Ceidiaw ap Arthwys, ap Mor, ap Morwydd, ap Ceneu, ap Cael Godhebawg yn y bumed ganrif. Dywed Mr. Rowlands mai mab i Caw Cawlwyd, a brawd St. Anne, ydoedd. Yr ystyr yw "Noddwr"


PLWYF LLANWENLLWYFO.

Y mae y plwyf hwn yn gorwedd oddeutu pum' milldir i'r de-orllewin o Amlwch, ar lan y môr. Cysegrwyd yr eglwys i St. Gwenllwyfo. Tybia rhai mai Gwenfwy—Gwenabwy, merch Caw Cawlwyd; ac os hi ydoedd, cysegrwyd hi yn y seithfed ganrif. Pwy yw y Llwyfo sydd yn nglyn a'i henw sydd anhysbys. Yr ystyr yw, "Llan yr ysgynlawr prydferth."

Y Parch. Hugh Robert Hughes, A.C., yw yr offeiriad yn bresenol, yr hwn sydd yn preswylio yn Madyn Dyswy.

Yn yr eglwys hon y claddwyd gweddillion y Wir Anrhydeddus Arglwyddes Dinorben y flwyddyn ddiweddaf. Yn ei marwolaeth hi cafodd tlodion y cymydogaethau golled anrhaethol, oblegid yr oedd yn hynod am ei haelioni.