Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llys Dulas.—Tybir i'r lle hwn dderbyn yr enw oddi. wrth lys Caswallon Llaw Hir, yr hwn sydd ar fynydd Eilian, ac yn terfynu yn agos iddo; a Dulas yn tarddu oddiwrth liw y bau sydd yn ei ymyl. Hen breswylfod Arg. Dinorben a'i deulu ar ei ol, ydyw y lle hwn. Y mae yr eglwys newydd wedi ei hadeiladu, gan Arglwyddes Dinorben, ac wedi ei chysegru i'w merch. Miss Gwen Gertrude Hughes, (Lady Neave, yn bresenol, trwy ei phriodas â Syr Arundel Neave, o Dagnam Park, Essex.)

Yn y plwyf hwn y mae hen gastell yn cael ei alw yn "Gasell Maelgwyn Gwynedd;" ac heb fod yn mhell y mae nant fawr a elwir Nant-y-bleddyn ap Adda—ystyr enw y nant yw, "Nant y dinystr." Oddeutu milldir o'r lle hwn y mae Twrllachiad—yr ystyr yw, 'Twr llechu'; ac y mae rhanau o'r twr i'w gweled hyd heddyw. Yma y preswylia rhieni Mr. R. Evans (Twrch). Gelwir y rhan ddeheuol o fynydd Eilian sydd yn y plwyf hwn, yn fynydd Nebo—yr hen enw oedd Mynydd-y-gad, oddiwrth fod brwydrau mawrion wedi eu hymladd yma oddeutu y fl. 877, rhwng y Saeson a'r Cymru.

PLWYF LLANEILIAN.

Saif y plwyf hwn oddeutu dwy filldir i'r dwyrain o Amlwch. Yr oedd y plwyf mewn undeb a pherigloriaeth Coedana a Rhosbeirio, ond yn awr y maent wedi eu gwahanu ar ol marwolaeth y diweddar Parch. John Owen. Cysegrwyd yr eglwys hon i St. Eilian Geimiad, mab Gellau Ruddawg ap Carludwys. Ymsefydlodd yn Llaneilian yn foreu--tua amser Caswallon Llaw Hir. Yr oedd Eilian yn cydoesi a Chybi, ac yn dra hoffus gan Caswallon, yn gymaint felly fel y rhoddodd efe