Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lawer o diroedd a breintiau iddo. Ceir llawer o draddodiadau ar gof yn y gymydogaeth hon o berthynas iddo hyd y dydd heddyw.

Dywedir i Eilian fyned ar bererindod i Rufain, ac iddo ddychwelyd, ac ymsefydlu gyda'r hen dywysog Caswallon, fel gweinidog teuluaidd iddo. Y nesaf yw, fod Caswallon wedi erchi i Eilian ollwng ci ar ol carw perthynol i'r tywysog; a pha faint bynag a allai y carw amgylchu o flaen y ci, y rhoddid ef at wasanaeth crefydd yn y wlad. Ac felly, meddir, y nodwyd terfynau plwyf Llaneilian. Ceir aber fechan yn agos i Borth Eilian a elwir hyd heddyw "Llam Carw," yn goffadwriaeth am y rhedfa uchod. Hefyd, gelwir lle yn mhorth Amlwch wrth yr enw hwn, oblegyd ei fod yn terfynu ar yr aber grybwylledig.

Adeiladwyd yr eglwys hon oddeutu y bedwaredd ganrif, ar lan y môr; adgyweiriwyd hi oddeutu y fl. 1171. Y mae adeiladwyr penaf Lloegr yn gallu profi hyn oddiwrth y cerfiadau a ganfyddir ynddi. Yn y fl. 1666, yr oedd yr adeilad yma yn edrych yn ddestlus, a darluniau o'r deuddeg apostol ynddi; dywedir fod y darluniau hyn wedi eu cael o long—ddrylliad a gymerodd le yn mhorth Eilian—y rhai oeddynt yn wreiddiol wedi eu pwrcasu i ryw eglwys yn yr Iwerddon.

Yr offeiriad presenol yw y Parch. O. P. Thomas.

Bryn Gwyn.—O berthynas i'r enw hwn dywed Mr. Rowlands fel hyn:—"It is called Bryn Gwyn, or Brein Gwyn, i.e, the supreme or royal tribunal. Brein or Breiniol signifying in the British, supreme or royal; and. Gwyn, properly fruit or action, and metaphorically court of tribunal. And such the place must have been, wherever it was, in which a supreme judge gave laws to a