Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

whole nation. No one can reasonably imagin it to be properly Bryn Gwyn, i.e., "a white hillock," it being a low situation and the soil about it, which sometimes denominates places being not of a white, but of a reddish complexion; neither is there any hillock of that name near it, from which it might be so called, &c.

PLWYF LLANEUGRAD.

Saif y plwyf hwn oddeutu chwe' milldir i'r dwyrain o Lanerchymedd. Cysegrwyd yr eglwys yn y chweched ganrif i St. Eugrad, mab Caw Cawlwyd, ac felly y tarddodd yr enw ar y plwyf yma. Bu yma frwydr waedlyd yn y fl. 873-yr hon ydoedd brwydr Bangoleu, sef rhwng y Brythoniaid a'r Daniaid, pryd y gwaethpwyd lladdfa fawr gan Rhodri (Rodri the Great.)

Lligwy.—Fferm yn y plwyf hwn; y mae y gair wy neu gwy sydd yn derfyniad i'r enw hwn, yn arwyddo hylfi (fluid) felly nid anmhriodol ei arferyd am afon, &c.


PLWYF LLANALLGO.

Mae'r plwyf yma oddeutu saith milldir i'r de-ddwyrain o Lanerchymedd; rhoddwyd yr enw yma ar y plwyf oherwydd fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Gallgo, neu Gallgof, un o feibion Caw Cawlwyd, Caw o Brydain, ac o Lanerchymedd.


PLWYF PENRHOS LLIGWY.

Y mae'r plwyf hwn yn sefyll oddeutu pum' milldir i'r gogledd-ddwyrain o Lanerchymedd: cysegrwyd yr eglwys i St. Michael. Tardda yr ystyr oddiwrth ansawdd y lle. "The head or upper end of the Common, near the river Lligwy." Dywed Mr. Rowlands fod St. Mechyll wedi ei gladdu yn mynwent y lle hwn oddeutu y seithfed