Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganrif. Efe (St. Mechyll ap Echwydd) a adeiladodd eglwys Llanfechell. Yr oedd "Capel Lligwy" yn y plwyf hwn, ond yn awr y mae yn adfeilion.

PLWYF RHOSBEIRIO.

Gorwedda y plwyf hwn oddeutu tair milldir i'r gorllewin o Amlwch. Tardda ei enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Peirio, mab Caw o Twrcelyn, Llanerchymedd, yn fl. 605.


PLWYF BODEWRYD.

Mae'r lle hwn oddeutu pedair milldir i'r gorllewin o Amlwch. Tardda yr enw oddiwrth fod rhedfa afon yn agos yno: ac, fel y dywed un—"Bodewryd, is the mansion at the rippling ford." Cysegrwyd yr eglwys i Marc Bodewryd, &c., mor foreu a'r fl. 1291 O.C. Yn y "Record of Carnarvon," ceir fod plwyf Bodewryd yn cael ei alw" Bettws Ysgellog;" ac fod ei ddegymau yn perthyn i Briordy Penmon.


PLWYF AMLWCH.

Saif y plwyf yma oddeutu ugain milldir i'r gogledd-orllewin o Beaumaris. Y mae'r plwyf yn saith milldir a haner o hyd, a'i arwynebiad yn 9220 o erwau, a'r boblogaeth oddeutu chwe' mil a haner.

Gorwedda tref Amlwch mewn dyffryn, fel Jerusalem a'r mynyddau o'i hamgylch. Terfynir hi o du y dwyrain gan fynydd Eilian; o du y dehau gan gloddfaefydd enwog Mynydd Parys; ar y gorllewin gan fynydd Tŷ Croes, neu le o'r enw Dinas (Castell); ac ar y tu gogleddol gan fôr Iwerddon. Nis gellir myned heibio i'r Ddinas heb wneud sylw neillduol arni, oblegyd dyma'r lle, fel y tybia rhai, y rhuthrodd y Rhufeiniaid i'r Ynys