brwydrau, yn nghyda hen gladdfa yn llawn o weddillion dynol. Dywedai Meistri Parry a Jones fod skeletons wedi eu codi o'r gladdfa yma oddeutu wyth droedfedd o faintioli. Y mae hen gladdfa hefyd yn agos i Beibron yn llawn o feddau y celaneddau ar ol brwydrau y Ddinas. Ystyr yr enw Peibron yw, "Bedd-fron." Yn agos i'r lle yma ceir olion hen Glafdy (Infirmary), a elwid heddyw Clafrdy. Y mae y gymydogaeth yma yn lle prydferth, ac mewn bri uchel. Ymgynullai lluaws o ddyeithriaid yma yn yr haf i bleseru eu hunain—i weled rhanau o furiau yr hen wryfdy, &c.; ac, fel y dywed ai y Bardd Du o'r Burwaen deg:
"Bro hyfryd fal Senir a Hermon
Yw'r bryniau y Burwaen deg dir,
Dyffrynoedd a dolydd gwyrdd deiliog,
Rhai siriol fel Saron sy'n wir:
Wrth edrych o amgylch ei chaera,
Y rhai sydd yn gadarn a heirdd,
Ceir gweled bryn t'wysog Llewelyn,
A Pheibron, prif orsedd y beirdd."
THOMAS WILLIAMS.
ENW AMLWCH.
Ceir lluaws o wahanol farnau o berthynas i'w ystyr: Syniad un dosbarth ydyw, fod marwolaethau mawr wedi bod yma rywbryd; ac mai yr ystyr yw "Aml i Bridd." Dywed eraill mai lle llwchlyd oedd, ac mai yr ystyr yw "Aml lwch." Eraill a dybiant fod y gair yn cynwys dau wreiddyn aml a lwch, yn yr hen Frythoneg, fel y mae y gair loch yr cael ei ddefnyddio yn yr Alban am lyn, neu bwll; ac felly tardda yr ystyr oddiwrth ansawdd y lle. Dywedir fod lluaws o leoedd ereill yn dwyn yr un ystyr, megys Llan-llwch, Tal-y-llychau, &c.; gelwir y lleoedd hyn felly oherwydd eu bod yn gylchynedig gan lynoedd. Os felly arwyddocad yr enw Amlwch ydyw "Cylchynedig gan lynoedd." Y syniad nesaf