Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

108

Hanes ac ystyr Enwau

yw , ei fod yn air cyfansawdd, ond fod y gwreiddyn loch yn gyfystyr a'r gair Saesneg inlet (cilfachau ) ; ac felly yr ystyr yw'Aml-gilfachau .' Wrth chwylio i'r ystyron

hyn, yr ydym yn methu canfod un rheswm ynddynt o'u cydmaru ag ansawdd y lleoedd o amgylch y dref.

Y mae ei wir ystyr yn ymddangos i'n tyb ni yn tarddu o'r iaith Gymraeg ; y mae yn air cyfansawdd o Amlac Och ! ceir hen enwau ar wahanol leoedd o amgylch y lle sydd yn dwyn prawfion digonol o hyn. Clywir swn brwydrau ynddynt oll : oddeutu hanner milldir i'r deau, ceir lle o'r enw “ Ceryg ý bloeddio";

cafodd yr enw hwn, oherwydd mai yno y bu y byddin oedd yn bloeddio ar eu gilydd i frwydr, ar fynydd y Gad ,” neu Nebo. Ar ben y mynydd hwn ceir lle o'r enw “ Twr llechu,” fel y crybwyllwyd o'r blaen . Hef

yd, os troir i'r gollewin, sain rhyfel sydd i'w glywed yn yr holl enwau.

Oddeutu milldir a haner o'r dref, ceir

lluaws o enwau yn arwyddocau hyn, megye (fel y dywed y Parch 0. Jones,) “ Rhyd Gwaed Gwyr ;" Pen -bod

ail- ffrae. Dyma y fan lle y bu brwydrau gwaedlyd rhwng yr hen Gymry a'r Saeson. Dywed y Parch. O. Jones mai yma y bu y frwydr a elwir “ Gwaith Duwsul yn Môn .” Yn y frwydr hon y lladdwyd Rhodri Fawr,

a'i frawd Gwriad, a Gweirydd ap Owain Morganwg. Parodd y trychineb hwn i wragedd Môn ymgyffroi mor fawr fel y cymerasant arfau ac y rhuthrasant ar y Saeson,

ac yr ymladdasant â hwy mor bybyr nes eu gorfodi i ffoi am eu bywyd, hyny oedd yn weddill o honynt, allan o'r ynys ! Fel hyn y mae yr oll o'r enwau a'r lleoedd o amgylch Amlwch yn rhoddi sail gref i gredu fod y brwydrau hyn wedi gwneud y lle yn un Aceldama fawr ;

a'r tebygolrwydd cryfaf yw, fed ystyr yr enw Amlwch