yn tarddu oddiwrth yr amgylchiadau hyny, pa rai a achlysurasant yr holl enwau rhyfelgar a nodwyd. Yr ystyr yw, "Aml Ochenaid," yn tarddu oddiwrth aml ocheneidiau y clwyfedigion, neu ocheneidiau y perthynasau ar ol y lladdedigion yn y frwydr hon. Gwel yr un sylwadau gan "Lucyn Ddu," yn mhapur y Cymry, o'r enw ""Lais y Wlad," ers oddeutu deuddeng-mlynedd yn ol; hefyd, gwel "Hanes Cymru," gan y Parch. O. Jones. Mewn hen gof-lyfr o'r enw The Record of Carnarvon, yr hwn a wnaed odddutu y fl. 1451 O.C., o dan deyrnasiad Harri VII., ceir fod Amlwch yn cael ei galw yn Amlogh. Dywedir fod hen lawysgrif ladinaidd ar gael heddyw, yr hon sydd yn cadarnhau yr ystyr Aml-och, Credwn fod cynnifer o engreifftiau ag a nodwyd yn ddigon i ffurfio barn lled gywir mai Aml Ochenaid yw y gwir ystyr. Cysegrwyd yr eglwys i Elaeth Frenin yn y seithfed ganrif: adeiladwyd yr un bresenol yn 1801. Yr enw cyntaf oedd Llan Elaeth.
Oddeutu y fl, 1272, yr oedd Amlwch yn lle poblogaidd. Y prif fasnach y pryd hyny oedd, Silk Manufacture; ac oddeutu y fl. 1348, pryd y bu pla mawr trwy holl Europe, ac y bu farw dros 60,000 yn Llundain, y torodd y pla hwn yn Amlwch. Pan oedd llong rhyfel yn myned heibio i'r lle hwn yn llawn o filwyr, digwyddodd i rai o'r milwyr farw o dan y pla hwn, a thaflwyd hwy i'r môr gyrwyd hwy gan y tonau i'r lân at Porth Careg Fawr. A phan oedd preswylwyr glan y môr yn chwylio am wreck ar ddydd yr Arglwydd, cawsant afael ar gorph un o'r milwyr, a llusgwyd ef i'r lan ganddynt. Bu hyn yn achlysur i'r pla ddod i Amlwch, a gwneyd difrod ofnadwy ar y trigolion. Bu cannoedd feirw dano. Galwyd y pla wrth yr enw "Pla y Cap