IIO
Hanes ac ystyr Enwau
Coch, " (oherwydd i'r person a gafodd y corph roddi cap y trancedig am ei ben.) Y mae lliaws o hen gladdfeydd o amgylch y dref
yn dangos ei bod wedi bod unwaith yn dra poblog aidd . SEFYLLFA FOESOL AMLWCH .-Yn y cyfnod cyntaf y ceir fod crefydd yn dra isel : nid oedd ond
yr eglwys yn unig yn milwrio yn erbyn llygredig aethau yr oes; ac er ei holl ymdrech cynhyddai. Oddeutu y A. 1786, yr oedd gwylmabsantau yn
cael eu cynal yma. Byddent yn codi esgynlawrar ddrws y Tŷ Mawr i chwareuwyr. Byddai llawer o lygredigaethau yn eu canlyn . Hefyd, wrth Pen -y
bont, byddai ymladdfeydd ceiliogod. Cesglid hwy yno o filldiroeddo ffordd, a therfynai mewn ymladd feydd dynion . Eto, byddent yn chwareu tenis a'r ben yr hen eglwys ar y Sabbath, ac yn ei ddiweddu yn y tafarndai trwy ganu a dawnsio; ar prif le i hyny oedd "Three Jolly Sailors ” (Castle Inn .)
Er fod ein trefyn ymdroi fel hyn mewn llygred igaethau, yr oedd yn uwch mewn diweirdeb na'r
oesbresenol. Os digwyddai i fenyw dripio, edrychid arni yn ysgymunedig am flwyddyn gyfan -- ni feiddiai ddarparu bwyd i neb, nac ymddangos mewn cym deithas, oblegid cyfrifid hi yn aflan . Y mae yr
eglwyswedi ymladd yn erbyn llygredigaethau y lle am oddeutu deuddeg cant o flynyddoedd. Gan ei bod ar y deehreu yn bersonoliaeth Elaeth Frenin, ab Meurig, ab Idno, bu raid iddo ef ffoi am ei
fywyd i Bangor Seiriol, yn un o'r Mynaich am ei oes .
Dywedir fod mewn cysylltiad a'r eglwys honar
y dechreu, roddion gwirfoddol o 44p. wedi eu neille duo i dlodion y plwyf, i'wrhanu ar ddiwrnod pen. odedig gan yr offeiriad. Hefyd, mewn hen weith.