Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

red sydd a'r gael heddyw yn nghoflyfrau yr eglwys, y mae un person tlawd i gael ei gynal am ei oes mewn lle a benodwyd gan y cymunroddwr.

Trachefn, mewn cysylltiad a'r eglwys hon, ynghyda Llanwenllwyfo, dywedir fod cynysgaeth wedi ei roddi iddynt fel bywoliaeth eglwysig. Rhoddwyd 200p. gan Esgobaeth Bangor; 200p o'r gedrôdd frenhinol; yn nghyda 1,100p o roddion seneddol. Y mae yn naddogaeth esgobaeth Bangor, gan yr hwn y mae hawl yn negwm y plwyf er y fl. 1603, sef yn nheyrnasiad Iago I. Adeiladwyd yr eglwys bresenol ar y cyntaf yn y fl. 1801, gan Gwmpeini y Mona & Parys Mines—Y gwir Anrhydeddus Iarll Uxbridge, ac Edward Hughes, Ysw. Amcangyfrif y draul ydoedd 2,500p. yn ol y "Typographical Dictionary"; ond yn ol y "Guide to North Wales," gan Mr. J. Hicklin, 4,000p—sef dwy fil oddiwrth bob gwaith. Hefyd, adgyweiriwyd hi yn drwyadl yn y fl. 1869, trwy offerynoliaeth y Ficar—Parch. John Richards, gyda rhoddion gwirfoddol 1,150p., pa swm a gasglodd trwy ei ddiwydrwydd ei hun. Hefyd, casglodd gan ei gyfeillion uwchlaw 300p. er pwrcasu Organ ysblenydd, o waith Messrs. Beavington & Son, Llundain. Eto, trwy offerynoliaeth yr un boneddwr, adeiladwyd eglwys fechan yn y Borth, yn 1872, yr hon a gyst, wedi ei gorphen, oddeutu 500p.

Y mae gan y pedwar enwad ymneillduol yn y dref eu capelydd hardd a destlus; ac y mae gan y Trefnyddion Calfinaidd Gapel ac Ysgoldy Newydd ysblenydd gwerth tua 2,200p.

Hefyd, y mae yma Ysbytty Newydd—(Dinorben Cottage Hospital,) yn werth tua 600p. Casglwyd rhan o'r swm yma gan ewyllyswyr da y sefydliad; a rhoddodd y ddiweddar Arglwyddes Dinorben y