Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

swm hardd o 400p. ati. Y mae yn anrhydedd i'r dref a'r gymydogaeth.

Porth Llechog.—Yr ystyr yw "Porth-lle-och."

Werthyr.—Fferm yn agos i Amlwch, yr ystyr yw "Gwrth fur."

Pilwr.—Tyddyn yn terfynu ar y Werthyr. Fe dybia rhai fod yr enw yma yn tarddu oddiwrth rai yn cael eu rhwymo wrth bawl; ac mai yr ystyr yw, "Gwr wrth bawl." Gwel 'Trysorfa y Plant.' Tybir gan eraill yn fwy rhesymol, ei fod yn tarddu o'r gair Pilum, dart (bidog) allan i ymladd yn nerth eu bidogau, ac fod hyny wedi cymeryd lle ar dir y Pilwr.

Hefyd, heb fod yn mhell oddiyno y mae lle arall yn cael ei alw Llywarch; credir mai yr enw priodol yw, Lluwarth—yr ystyr yw "Gorphwysfa y fyddin."

Plas Gandryll.—Dywedir fod yr enw wedi tarddu oddiwrth fod y lle wedi bod yn cadw drylliau y byddinoedd.

Tref Cynrig.—Trigfa Cynrig ap Meredydd Ddu.

Bod Dunod.—Trigfa Dunod Fawr ap Pabo Post Prydain, oddeutu y chweched ganrif.

Madyn Dyswy.—Dywedir ei fod yn hen balasdy i un o'r hen dywysogion Cymreig. Tybir mai "Madyn Dywysog" ydyw yn briodol, ac nid Madyn Dyswy; llygriad yw'r gair dyswy o Tywysog, ac ystyr y gair madyn yw llwynog, neu cadnaw. Ceir arf-bais y tywysog ar furiau yr hen balasdy heddyw. Bu y lle hwn yn enwog oherwydd y personau urddasol fy ynddo yn cyfaneddu. Oddeutu y fl. 1552 codwyd un o'r enw Robert Parrys, Ysw., yn uchel sirydd: claddwyd ef yn Mynwent Amlwch. Cydmarer Rowland's, "Mona Antiqua," â chareg fedd Madyn Dyswy yn yr hen fynwent.