Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

presenol yw gydag ebillion, morthwylion, pigiedydd, gyrdd bathiadur, ynghyda phylor: fel hyn dryllir, weithiau, denell neu ddwy ar unwaith.

Rhagoriaeth y Mynydd hwn ar waithfaodd mwnawl y byd.—Rhagora yn ei ddyfroedd. Trwy ad-ddansoddi ei ddyfroedd, ceir ynddynt wahanol elfenau-Copras pur, sug llosgfeini, Oil of vitrol, paent, haiarn, plwm, copr, ac arian. Barnwyd y dyfroedd hyn yn werth wyth geiniog y chwart gan y mŵn-ofydd.

II CWMWD TALYBOLION.

Tybia rhai fod cyfathrach rhwng Talybolion a Suetonuis Paulinus-Rigio Paulini-Tal-Polion. Crybwylla Mr. Edward Llwyd am le o'r enw Pant y Polion, yn agos i ba fan y cafodd yn gerfiedig enw un Paulinus, yr hwn mae'n debyg a syrthiodd mewn brwydr, neu a gladdwyd yn y llanerch. Tybia rhai i Suetonius Paulinus feddianu rhan o'r cwmwd hwr fel ffrwyth ei fuddugoliaeth, ac i'w enw o hyny allan lynu wrth ei randir: ond y mae hyn oll yn bur annhebygol.

Ymddengys fod gwreidd-darddiad yr enw gan Mr. Rowlands yn llawer mwy rhesymol, dywed ef fel hyn: "I am rather inclined to believe, that as certain teritories in Cumberland are called Copeland (ap acuminatu, collibus) as Mrs. Camden observes, so this name might be derived from many, and coped hills, which are here and there in that teritory called Moelion, or Moelydd, of which one or two return that application of Moel to this day. On which account I take it probable such baretopped hills being called Moelion, yet, therefore that region