PLWYF LLANBADRIC.
Y mae'r plwyf yn sefyll oddeutu pum' milldir o Amlwch. Cysegrwyd yr eglwys yn y seithfed ganrif: ond yn ol yn y Mona Antiqua, y 4ydd ganrif, i St. Patrick ap Alfryd, ap Gronwy, ap Gwdion, ap Don, o Waredawg yn Arfon. Anfonwyd St. Patrick gan y Pab Celestine i ddychwelyd y Gwyddelod at Gristionogaeth; ac ar ei ffordd trwy yr ynys hon, adeiladodd yr eglwys yma ar lan y môr; ac felly cafodd y plwyf yr enw oddiwrth yr hen sant. Yr ystyr yw "Llan y Pendefig."
O fewn i'r plwyf hwn y mae dwy faerdref—Cemaes a Chlegyrog. Yr oedd y trethoedd yn 1803, yn 130p. o Gemaes, a 42p o Clegyrog. Gwel tarddiad yr enw Cemaes, o dan Cantref Cemaes. Tardda enw Clegyrog oddiwrth ansawdd y lle-tir caregog, sef mân greigiau. Yn y flwyddyn 1723, rhoddodd un o'r enw Richard Gwynne, Ysw., fferm yn mhlwyf Amlwch, yn cael ei galw Nant Glyn, yn rhodd am byth at waddoli ysgol rad i blant y plwyf hwn. Yr oedd dau gapel yn y plwyf yma o'r enw Gwen Hir a Gwenhoyw, sef yn Bettws Llanbadrig.
BETTWS LLANBADRIC, NEU CEMAES.
O berthynas i ystyr y gair Bettws, yr hwn sydd i'w weled yn fynych yn yr ynys hon, y mae amrywiol farnau. Dywed un y cyfenwai Gwyrfaiensis yn y Brython ef a'r gair Bead house, o'r hwn y mae yn llygriad.
Dywed y Parch. Edward Llwyd, Rhydychain, nas gallai efe bendefynu beth allai arwyddo―ond iddo dderbyn llythyr oddiwrth foneddwr o swydd Drefaldwyn yn sicrhau nad yw amgen na'r gair Beatu (dedwydd) wedi eu Gymreigo, a'i fod yn dwyn perthynas a sefydliadau cre-