Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyddol St. Beuno. Barna eraill mai ei ystyr yw Abalis, lle a berthynai i Abatty, neu Briordy. Eraill a dybiant ei fod yn arwyddo lle canolog rhwng dyffryn a bryn, neu fynydd uchel—" Bod gwys"—lle cysgodol.

Credwn y byddai yn werth i hynafiaethwyr Cymru wneud ymchwyliad pellach i'w ystyr.

PLWYF LLANRHWYDRYS.

Gorwedda y plwyf hwn oddeutu wyth milldir i'r gogledd-orllewin o Lanerchymedd. Rhoddwyd yr enw hwn ar y lle oherwydd fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Rhwydrys, neu Rhydrys ap Rhwydrin, brenin Connaught, yn yr Iwerddon, yn y seithfed ganrif, yn ol "Bonedd y Saint;" ond, yn ol y Mona Anti. yn 570. Saif yr eglwys yn agos i fôr Iwerddon, ac heb fod yn mhell o Cemlyn.


PLWYF LLANFAIR YN NGHORNWY.

Saif y plwyf hwn oddeutu naw milldir i'r gogledd orllewin o Lanerchymedd. Cafodd yr enw uchod am fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Mair. Cornway neu Cernyw oedd hen enw Prydeinig ar Cornwall, ac ar y rhan yma o Ynys Môn. Beth achosodd iddo gael yr enw nis gwyddom.

Mynachdy.—Ty mynach. Yn agos i'r eglwys y mae tair o geryg mawrion yn cael eu galw "Meini hirion," neu "the stones of Heroes."


PLWYF LLANBABO.

Mae'r plwyf hwn oddeutu chwe' milldir i'r gorllewin o Lanerchymedd. Sylfeinydd yr eglwys oedd un o hen dywysogion Cymry, yr hwn a fu yn amddiffynydd dewr i'w wlad rhag ymosodiadau y Scotiaid a'r Pictiaid. Cyfenwid of Pabo Post Brydain—The support of Britain; ac ar ol yr urddiad sanctaidd, daeth yn un o'r seintiau