mwyaf parchus a chyfrifol. Tardda enw y plwyf oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru yn y bedwaredd ganrif, i Pabo, yr hwn oedd fab Arthwys, ap Môr, ap Morydd, ap Cenau, ap Cael Godhebog. Efe oedd frenin yn y Gogledd, ac a yrwyd o'r wlad gan y Gwyddel Ffichti, a daeth i Gymru, lle cafodd diroedd gan Gyngen Deyrnllwg, a chan ei fab Brochwel Ysgythog.
PLWYF CAERGYBI.
Saif y plwyf hwn oddeutu saith milldir-ar-ugain o Beaumaris. Nid yw Ynys Cybi (Holy Island) ond bechan o ran maintioli: tua chwe' milldir o hyd o'r dwyrain i'r gorllewin, a phum' milldir o led o'r gog ledd i'r deau.
Yn Methodistiaeth Cymru' cyf. i. t.d. 7., dywedir:"Tua chanol y bedwaredd ganrif, ceir hanes am un o'r enw Cybi, mab i frenin Cornwall. Dywedir i hwn, wedi iddo fyw yn grefyddol iawn am ugain mlynedd gartref, fyned i Ffrainc, at Hilary, esgob Poictiers; ei fod trwy enill gwyneb yr esgob wedi cael ei ordeinio ganddo, ac iddo wasanaethu fel cynorthwywr iddo, hyd farwolaeth yr esgob, ac yna iddo ddychwelyd i'w wlad; ei fod oherwydd trallodion ei wlad, ac amgylchiadau gofidus yn ei deulu, wedi gadael ei gartref drachefn, a dyfod yn gyntaf i Dy Ddewi; a thrachefn iddo fyned i'r Iwerddon; ac yn mhen pedair blynedd ddyfod trosodd eilwaith ac ymsefydlu yn Nghaergybi. Dywedir hefyd fod Tywysog Môn, o dosturi at ei dlodi, wedi ei anrhegu a chastell ag oedd yn y gymydogaeth; a darfod sefydlu mynachlog fechan o fewn y castell, a galw y lle oddiar hyny yn Côr Cybi, gan olygu y castell." Yn ol "Teithau Pennant yn Nghymru" Cyf. ii., t.d. 276,