Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

120

Hanes ac ystyr Enwau

bernir mai oddiwrth y gair Castell y daeth yr enw
Caer Gybi, neu Caerau Gybi, gweddillion pa rai sydd

i'w gweled hyd heddyw . Yn ol Tanner llewyrchodd
St. Kebius tua'r flwyddyn 380 O.C. Ar y tu gogleddol

i'r eglwys blwyfol, sef y fynachlog a nodwyd, mae y
llythyrenau canlynol, yn y dull Gothaidd : - " Sancte
Kybi ora pro nobis" ( “ O sant Cybi, gweddia droswyf”)
i'w gweled yn awr.
Yr enw nesaf Cae'r Ddwy, fel yr ysgrifenir ef mewn
hen gof-lyfrau . Tardda y gair dwy, o Dduw ; a'r ystyr
yw " Amddiffynfa y Duw ."

Holyhead . - Tybia rhai fod yr enw hwn yn tarddu
oddiwrth fod yma amryw gapelau, neu leoedd i addoli.
Ond tybia eraill yn wahanol ei fod wedi tarddu oddiwrth
le yn agos iddo o'r enw Pencelyn (Pen Cyhelyn) oddi

wrth Cyhelyn mab Caw , fel y crybwyllwyd .
Cyfieithir ef weithiau yn Holyhead , ond y gwir ystyr
yw “ Cyhelyn's Head.” Yr hen enw oedd “ Llan y

Gwyddel,” yr hwn a darddodd oddiwrth fod Caswallon

wedi adeiladu eglwys ar fedd ei elyn Serigi Wyddel, ac
iddo ei galw “Llan y Gwyddel.”
Gelwir yr ynys fechan hon Caergybi, yn “Ynys
Halen ," am mai yno y byddis yn derbyn y doll ar yr hal.
en a ddygid i'r rhan yma o'r wlad. Dywedir mai Wm.
Morris, brawd yr hen fardd Lewis Morris (Llewel

yn Ddu o Fôn ) oedd y prif swyddog yn y tolldý hwn.
Bu ef farw yn y fl. 1764.

Yr oedd Caergybi yn fan adnabyddus i'r Rhufeiniaidd,
canys dywed Tacitus fod trafnidiaeth helaeth yn cael ei
ddwyn yn mlaen rhwng y lle yma a'r Iwerddon, yn
amser Julius Agricola. Y mae hyn yn cyd -daro, âg