amryw enwau sydd ar leoedd yn y gymydogaeth hyd y dydd hwn; megis y Valley, neu yn hytrach y Fael-lif; a Phenrhos Faelwy sydd yn arwyddo agos yr un peth. Y mae amryw olion o adeiladau Rhufeinig yn aros yma hyd yn awr.
Y mae helbylon milwrol a rhyfelgar y gymydogaeth hon wedi bod yn lluosog a phwysig, ac yn cael lle cyhoeddus yn hanesion boreuol y wlad. Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid, ac yn amser teyrnasiad Einion Urdd, mab Cunedda, yr hwn a unodd dan ei lywodraeth Frytaniaid, Ystrad Clwyd, a thalaeth Gogledd Cymru, ac a breswyliai yn ei diriogaethau gogleddol,— daeth yr Albanwyr Gwyddelig dan arweiniad Serigi, ac a diriasant yn Môn, ac wedi gorchfygu y brodorion, cymerasant feddiant o'r ynys. Wedi clywed y newydd. hwn, anfonodd Einion Urdd ei fab hynaf, Caswallon Llaw Hir, yn ddioed i waredu Môn o ddwylaw yr estroniaid, yr hwn a gynhullodd ei holl alluoedd, ac a ymosododd ar y dyeithriaid, gan eu llwyr orchfygu, ac a laddodd Serigi mewn ymdrech bersonol gerllaw Caergybi, a ffodd y gweddill yn eu llynges oedd yn y porthladd, gyda cholled fawr. Yn y fl. 443, wedi i Caswallon, mewn canlyniad i farwolaeth ei dad, ddyfod i'r orsedd, dewisodd Fôn fel ei breswylfod; ac fel mai efe oedd y gangen hynaf o deulu Cunedda, yr oedd yn mwynhau urddasolrwydd uwchlaw y tywysogion eraill, y rhai a dalent warogaeth iddo oll fel eu harglwydd a phen phrif benadur y wlad. Y mae olion nifer o aneddau y dyeithriaid a elwir "Cytiau y Gwyddelod," yn aros yn yr ardel hon hyd yn awr, fel y gellir gweled yn y Tŷ mawr, Porth Naumarch, Ynys Llyrad, &c., a chafwyd rhai arfau o wneuthuriad Gwyddelig gerllaw y Tŷ mawr,