yr hyn a gadarnha y dystiolaeth. Ymddengys i'r wlad gael seibiant wedi hyn hyd y fl. 900, pan y daeth Igmwnd a'i baganiaid duon Fôn, ac yna y bu gwaith i Rhos Meilion, neu Meloreu. Mae yn debygol mai yn Ynys Cybi y bu y frwydr hon, sef y lle a elwir yn awr Penrhos-feilw. Mae tŷ a elwir "Tŷ Milo," neu yn hytrach "Tŷ Maelu," yma yr awr. Drachefn, anrheithiwyd Môn gan ŵyr Dulyn yn y fl. 915. Drachefn, yn 958 tiriodd Abloie brenin Dulyn yn y wlad, ac a losgodd Caergybi, ac a wnaeth ddinystr mawr drwy yr ynys. Bu ymosodiadau mynych ar y lle hwn, ac ar Aberffraw yn neillduol, y naill bryd a'r llall.
Y mae yma Forglawdd yr hwn sydd yn un o'r gweithredoedd penaf a gyflawnwyd er ei hynodi, ac yn dwyn cysylltiad pwysig rhwng y wlad hon a'r Iwerddon, er hyrwyddo mordwyaeth rhyngddynt i raddau mawr. Yr oedd sylw y wladwriaeth ar yr angenrheidrwydd am a gwelliant hwn wedi ei dynu at y lle er amser dryll iad y Chalremont Packet, o Parkgate, ar yr Ynys Halen, yn ngenau y Bay, Rhagfyr 18fed, 1790, pan y boddwyd cant a deg o deithwyr. Y mae y dref wedi ei chodi ar derfynau yr Ynys. Y mae y tir sydd yn ymwahanu fel ynys oddiwrth y sir gan y fael-lif, yn cynwys plwyfi Caergybi ar y gogledd, a Rhosgolyn ar y ddê. Y mae y sefyllfa yn fanteisiol i'r Mail rhwng Caergybi a Dublin. Dywedir nad yw yn hyspys pryd y dechreuodd y lle hwn fod yn borthladd y Mail; ond y mae yn wybyddus ei fod yn amser William III. Y mae y Goleudy ar y morglawdd hwn yn amddiffynol iawn i'r morwyr rhag peryglon yr Ynys Halen yn awr. Dywedir fod oddeutu 600 o fordeithwyr yn myned a dyfod drosodd bob dydd o'r Iwerddon. Felly y mae yn lle pwysig iawn.