Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae yma Fôr-fur (Breakwater) arall. Y gloddfa anferth o'r lle y codwyd y defnyddiau ydyw "Mynydd y Twr." Gwelwyd oddeutu pymtheg cant o weithwyr yn cloddio meini i lenwi cylla gwangcus y môr. Difawyd swm anferth o bylor yma. Ar ddydd Gwener, Ionawr 16eg, 1857, taniwyd un-mil-ar-bymtheg o bwysau o bylor, a chwythwyd yn ysgyrion tua chan mil o dunelli o'r mynydd. Cyn tanio yr egyd mawr hwn, gwelwyd gafr yn pori yn ddiofal ar y mynydd, ac mewn eiliad daeth i lawr ar frig y groglwyth gwympiedig yn groen gyfan ddigon, ond yn bur ddychrynedig o bosibl. Dydd Mercher, Medi 9fed, 1844, gyda chwe' tunell o bylor, rhyddhawyd 10,000 o dunelli o'r graig, &c.

Dywedir fod oddeutu 900 o longau yn achlesu yn nghysgod y breakwater yma bob blwyddyn; a diau yr arbedir llawer o fywydau yn flynyddol trwy y fath gyfleusdra rhagorol.

Y mae yr Ynys Lawd (Ynys yn lledu) gyda'i goleudy, ei chloch, a'i phont gadwynol, yn wrthddrych sylw mawr. Dywedir fod yno risiau, sef gris am bob diwrnod yn y flwyddyn. Pob un a aeth i lawr ac i fynu, bu yn dda ganddo gael gorphwys am amser hir; ac fe deimlai ar ol hyny am ddiwrnodiau.

Y mae y fywiolaeth yn guradaeth barhaol yn archddeoniaeth Môn ac esgobaeth Bangor, wedi ei gwaddoli a 400p. o roddion seneddol, ac yn nawddogaeth llywydd ac ysgolorion Coleg yr Iesu yn Rhydychain, y rhai yn 1820, a ychwanegasant 20p. yn flynyddol at gyflog y curad. Dywedir yn yr hen-gofnodau mai Cybi a a sylfaenodd yr eglwys yn y bedwaredd ganrif. Rhydd un hen ganiad boreuol iawn i ni grynodeb o hanes ei