Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Giraldus yn ei draethawd ar "Itinerarium Cambrice," yn dyweyd fod Caernarvon yn cael ei galw felly, oher wydd ei bod yn sefyll gyferbyn a Môn, ar yr ochr arall i'r afon. Ac er fod sylwadau annghywir Cæsar wedi camarwain, eto cytunir yn gyffredinol mai yr un ydyw Isle of Anglesey a Mona-prif eisteddle y Derwyddon. Enw y llywydd Rhufeinaidd a orchfygodd yr ynys hon gyntaf oedd, Suetonius Paulinus, yr hyn a gymerodd le dan deyrnasiad Nero (0.C. 59.) Gelwir yr ynys hon yn Monaw (the Môn of the water); ac, weithiau gelwir hi yn "Fôn Fynydd" gan y beirdd

"Cerddorion hyd Fôn Fynydd,
Dros hwn yn pryderu sydd."

Hefyd, gelwir hi yn Ynys Gadarn," am ei bod wedi bod yn noddfa i ffoedigion o wledydd eraill, ac yn anhawdd ei goresgyn, oherwydd ei bod yn ynys y gwroniaid.

Pan oresgynwyd yr ynys hon gan y Sacsoniaid, hwy a'i galwasant hi yn Money–ey yn eu hiaith hwy, sydd yn arwyddo Ynys: ond, ar ol ei darostwng gan y Saeson, gorchymynwyd ei galw yn "Anglesey" (neu Angle sea), h.y., Ynys y Saeson (Englishman's Island.) Derbyniodd yr enw yma ar ol y frwydr waedlyd fu yn Llanfaes, rhwng Merddyn o orsedd Cyman, ag Egbert brenin y Saeson; ac wedi i Egbert enill y frwydr, cymerodd feddiant o'r ynys, a gorchymynodd iddi beidio cael ei galw mwyach yn Fôn, ond yn Anglesey. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 818. Gwel. Hanes y Cymry,' gan y Parch. O. JONES, tudal. 141. Tarddodd yr enw hwn oddiwrth blaid fawr o bobl oeddynt a'u trigle tua glenydd y Baltic, y rhai a elwid Anghels, neu Angles, felly gelwir hi yn "Ynys yr Eingyl."