Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gelwid Môn hefyd yn "Ynys Dywell," mewn cyferbyniad i agwedd gwledydd diwylliedig. Fel yr oedd parthau deheuol Prydain Fawr yn cynyddu yn eu poblogoeth, yr oeddynt hefyd yn cynyddu yn naturiol yn mhob cyfeiriad. A phan luosogodd y boblogaeth yn rhandiroedd uchaf Gwynedd, symudasant yn mlaen; a phan ddaethant at ochrau sir Gaernarfon, gyferbyn a'r ynys hon, a gweled ei bod yn orchuddiedig gan goed, yn naturiol dywedasant—"Dyma Ynys Dywell." (Here is a dark Island.) Dywed eraill iddi gael ei galw felly am mai yma yr oedd prif eisteddle y Derwyddon, y rhai oeddynt yn dewis rhodfeydd tywyll dan dderw cauadfrig i aberthu i, ac i alw ar eu duwiau; yr hyn sydd yn gwirio y syniad am dani fel y "dark and shady Island." Yr oedd Môn y pryd hwn yn llawn o lwyni pendewion, a hyny yw meddwl y bardd pan y dywed:

"Nos da i'r Ynys Dywell,
Ni wna oes un Ynys well."

Drachefn, y mae yn cael ei galw yn "Fôn mam Cymru," am ei bod yn noddfa i ffoedigion, yn ffynonell dysgeidiaeth, ac yn gysegrfa crefydd—gwel 'Hanes y Cymry,' gan y Parch. O. JONES, tudal. 53.

Giraldus Cambrensis, yn y ddeuddegfed ganrif, sydd yn rhoddi y darnodiad o honi dan y term o Famaethfa Cymru " (Nursery of Wales), neu yn ol eraill, "Mamaeth Cymru" (the nursing Mother of Wales). Gelwid hi wrth yr enw hwn oherwydd ei bod yn cynorthwyo gwledydd eraill Cymru gyda grawn, &c., yn amser prinder. Dywed Mr. Rowlands, yn ei bortrëad amaethyddol o'r wlad yma, y byddai y trigolion yn cadw eu hanifeiliaid i mewn yn y nos, a chanol dydd, am yspaid penodol, er mwyn i'r bugeiliaid gael hamdden i orphwys: