Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CANTREF RHOSIR

Cantref Rhosir a adnabyddir wrth luaws o wahanol enwau. Geilw rhai y lle yn Rhos -fair, oddiwrth eglwys fechan a gysegrwyd i St. Mair. Eraill a'i galwant yn Rhos-aur, neu Rhos-ffair, oddiwrth y rhos sydd yn agos yno, yn mha un y cynhelid ffair yn yr hen amser. Ond dywed y "Mona Antiqua," a'r " Topographical Dictionary of Wales," gan Mr. LEWIS, fod yn fwy tebygol mai y gwir enw yw Rhos-hir, yr hwn sydd yn fwy henafol na'r un o'r enwau a nodwyd, a hyny yn fwy cydweddol ag ansawdd y lle; oherwydd dywedir fod Morfa hir yn rhedeg oddiwrth Newborough i fynydd Llwydiarth, neu yn briodol, Mynydd-yr-arth-lwyd. Y mae y rhos hon oddeutu naw milltir o hyd, ac yn rhedeg trwy y ddau gwmwd, y rhai yn ol pob tebygolrwydd a alwyd yn Rhos-hir, ac yna rhoddwyd yr enw hwn ar y gantref oll.

Y ddau gwmmwd sydd yn sefyll yn nghantref Rhosir ydynt Tindaethwy a Menai.

Terfynau cantref Rhos-hir (Newborough):-Dywed WILLIAM JONES, Ysw., yn y Gwyneddon," fod y terfynau hyn yn afreolaidd, ac yn cynwys Rhos-colyn, Sybylldir, a Bryngwallan. Y terfyn deheuol sydd yn ymestyn oddiwrth Aber Pwll Ffanogl, yn mlaen hyd ochr y dwfr i Aber Menai; yna yn mlaen hyd ochr glan y mor i Llanddwyn Point; oddiwrth Porth Dwynwen, a'r gareg a elwir Careg Gwladus, yn mlaen hyd derfyn