" Mynedfa drosodd." Tybia eraill fod y gair yn cael ei gyfansoddi o'r geiriau aeth a gwy, h.y., " afon aeth us. " Dywed y diweddar Barch. P. B. WILLIAMS, Llan rug, awdwr y " Tourist's Guide through the county of Carnarvon," fel hyn am Borthaethwy: " This ferry,
probably took its name from the Hundred or division in which it is situated — Tindaethwy. " Y mae yn sicr fod y gymydogaeth, neu y rhan hon o'r ynys, yn
cael ei galw yn bur foreu wrth yr enw Tindaethwy. Y mae y gair Tin yn tarddu o'r ferf taenu (to spread); felly yr ystyr yw gwlad agored (plain open country.) Yn dilyn wele daflen o'r plwyfydd yn nghwmwd Tin
daethwy, a'r flwyddyn yn mha un yr adeiladwyd rhai o'r gwahanol eglwysi: Plwyf.
- Llandegfan—450 OC
- Beaumaris—200
- Llanfaes—700
- Llangoed—600
- Llan Istyn—620
- Llanfihangel Din Sylwy—
- Llanddona—610
- Pentraeth—600
- Llanddyfnan—590
- Llanbedrgoch—(anhysbys)
- Llanbedrmathafarneithaf 600
- Llansadwrn—600
- Llanfairpwllgwyngyll—
- Rhan o Tregaian—600
- Llandysilio—630
- Llanfairynghwmwd—
- Penmynydd—630
- Newborough—
PLWYF LLANDEGFAN
Cafodd y plwyf hwn yr enw yma ers oddeutu y bedwaredd ganrif, oddiwrth Tegfan, ŵyr Cadrod Calchynydd, ac ewythr Elian. Bu yn beriglor yn Mangor Cybi: ystyr yr enw—Trigfan deg neu brydferth. Yn nheyrnasiad Charles I. cymerodd rhyfel gartrefol le, ac anfonodd y llywodraeth fyddin o wŷr, dan lywyddiaeth y Cadfridog Mytton, i le o'r enw Garth Ferry. Ychydig o wrthwynebiad a gawsant i lanio, yn unig ymddangosai yr isgadben Hugh Pennant a'i fintai gerllaw Cadnant; ond y gelynion a dywalltasant eu hergydion arno o'r