Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwrychoedd, ac o lochesau y creigiau, fel y gorfu iddo encilio yn fuan. Gerllaw Porthaethwy, o fewn llai na milldir i Cadnant, yr oedd gwarchodlu cryf wedi eu cyfleu, dan lywyddiaeth dau o swyddogion; ond y rhai hyny a ffoisant mewn modd gwarthus, ac nid heb amheuaeth cryf am danynt eu bod yn euog o fradwriaeth; canys dywedir fod gair ar led ar ol hyny, fod un o honynt wedi derbyn haner cant o bunau gan y Maeslywydd Mytton yn mlaen llaw, am fradychu yr ynys a'i rhoddi i fyny; a bod haner cant arall mewn addewid ar ôl i hyny gymeryd lle, ond na thalwyd byth mo honynt. Gwel " Hanes y Cymry," gan y Parch O. Jones, a " Golud yr Oes," ar hanes Castell Beaumaris.

BEAUMARIS.—Gelwir y dref hon ar amrywiol enwau; ac o berthynas i'r enw hwn ceir amrywiol farnau. Myna un mai Bumaris ydyw; eraill mai Bimaris; y trydydd mai Beaumaris; y pedwerydd mai Beaumarish; y pum. ed mai Belio Mariseum; a'r diweddaf mai Bellum Aniscum: y mae yn anhawdd gwybod pa enw yw y mwyaf priodol. Y mae pleidwyr yr enw Bimaris yn sylfaenu eu credo ar sefyllfa y dref, sef yw hyny, rhwng dau-for (neu Bi-maris) am ei bod yn sefyll rhwng yr Irish Sea a'r St. George's Channel. "Corinthus-inter duo maria Acquaeum et Ionium unde Bimaris dicitur." Vide Desp. in Hor. Od. I. VII. 2. Myn eraill fod yr enw yn tarddu o'r ddau air Ffrengig, beau a maree" Mor prydferth: tra y dadleua y blaid arall dros yr enw Beaumarish, neu "Y forfa deg;" yr hwn enw, meddir, a roddwyd arni gan Iorwerth I. Credir gan eraill fod yr enw Beaumaris yn gyfansoddedig o ddau wreiddyn-beau yn y Ffrancaeg, am brydferth, a maris