Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Lladinaidd, yn dyfod o'r gair mare am for; ac felly mai yr ystyr yw—"Môr prydferth." Yn nesaf, gelwid hi mewn hen ysgrif-lyfr tra boreuol, yn "Gaer Athrwy," oddiwrth gwmwd Tindaethwy.

Gelwid hi hefyd yn Borth Wygyr. Tybia rhai mai at y lle hwn y cyfeirid yn yr hen driad canlynol:-" Tri porthladd breiniol ynys Prydain-Porth Ysgewin, yn Ngwent; Porth Wygyr, yn Mon; a Phorth Wyddnaw, yn Ngheredigion." O berthynas i darddiad yr enw hwn y mae gwahanol farnau: ymddengys i ni ei fod o'r un tarddiad a'r gair Dwygyr, ac os ydyw, dyma yr ystyr (yn ol syniad y Parch. O. JONES)—Porth gwaed gwyr;' oblegyd ei syniad ef am ystyr enw lle yn agos i Amlwch, sef Dwygyr, ydyw "Rhyd gwaed gwyr." Dywed Mr. R. EVANS, Trogwy, mai "Wigir" yw y gair, ac nid "Wygyr," ac os felly rhaid ei fod yn tarddu oddiwrth agorfa mewn coed, ac mai ei ystyr yw, "Porth y wig îr." Y mae hyn yn cydredeg yn naturiol ag ansawdd y lle yn y dechreuad; ac hefyd, yn gydsyniol hollol â llafar gwlad, â thraddodiad hen frodorion Amlwch a'i hamgylchoedd o berthynas i ystyr yr enw Dwygyr, sef "Dwy-wig-îr." Y mae yn y lle hwn olion llwyni o goed i'w gweled hyd heddyw. Y tir ar ba un y saif Castell Beumamaris, sydd ar ochr ogledd-ddwyreiniol y dref; perthynai i Einion, ap Meredydd Gruffydd, ap Ifan, ac Einion, ap Tegwared. Oherwydd fod y sefyllfa yn fwy manteisiol nag unrhyw le arall i'w adeiladu, gwnaed cytundeb rhwng Iorwerth I. a'r meddianwyr; ar yr amod fod iddynt hwy roddi i'r brenin y tir a berthynai iddynt yn Beaumaris, rhoddodd yntau diroedd yn eu lle iddynt hwythau a'u hiliogaeth dros byth, yn nhreflanau (townships) Erianell a Thre'rddol; y rhai