Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefyd oedd i fod yn rhydd oddiwrth ardreth. Pa fodd y daeth y brenin yn feddianol ar y cyfryw leoedd, nid yw yn hysbys.

Er mai ag ystyron geiriau yr ymdrinir yn fwyaf neill duol yn y traethawd hwn, dichon nad annyddorol fyddai ychydig grybwylliadau hanesyddol, y rhai sydd yn dwyn cysylltiad agos ac uniongyrchol a'r gwahanol leoedd. Y peth cyntaf a ddaw dan sylw mewn cysylltiad a Beaumaris ydyw, "Cyflafan y Beirdd," yr hon a gymerodd le yn ol gorchymyn Iorwerth I. Dywed rhai awduron diweddar gyda golwg ar yr hanes yma, na roddwyd beirdd Cymru erioed yn aberth i'r cledd gan Iorwerth. H. INCE, M.A., a sylwa, rywbeth yn debyg i hyn:—I'r dyben o ddiffodd yr yspryd rhyddid a feithrinid gan ganeuon y beirdd Cymreig, dywedir fod Iorwerth wedi eu galw hwy yn nghyd, a pheri iddynt oll gael eu lladd yn Nghonwy. Gwel " Ince & Gilbert's outlines of English History," tudal. 48. Eto, y mae heuaeth yn ei feddwl yntau, canys ychwanega— "Y mae er hyn yn bwnc hanesyddol a amheuir." Tystia amryw o awduron hen a diweddar fod y gyflafan grybwylledig wedi cymeryd lle, tra y mae eraill yn tystio i'r gwrthwyneb.

Yr oedd у beirdd yn uchel eu bri yn amser y Derwyddon, ac wedi hyny yn mhlith y tywysogion Cymreig hyd ddyddiau Iorwerth I., yr hwn a dynodd oddiwrthynt y gynhaliaeth berthynol iddynt yn ol penodiad y tywysogion—sef eu tâl-gyflogau o'r llywodraeth, am yr hyn yr oedd y beirdd yn dra anniolchgar; ac ystyrient eu hunain dan fath o ferthyrdod, ac oddiwrth hyny tybiodd rhai i'r brenin Iorwerth eu merthyru mewn gwirionedd. Oherwydd nad oes enw unrhyw un a ferthyrwyd