Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar gael, nac un wybodaeth am neb o honynt a ddioddefodd y cyfryw ferthyrdod, na fydded i ni fod yn rhy barod i goelio y gwaethaf, ac i ddwyn camdystiolaeth yn erbyn y brenin. Y mae hanes fod Iorwerth yn byw am beth amser yn Nantlle, yn mhlwyf Llandwrog, sef yr amser yr oeddid yn adeiladu Castell Caernarfon neu o leiaf, pan oedd yn cael ei adgyweirio—a'r pryd hwnw yr oedd Gwilym Ddu o Arfon yn byw yn yr un plwyf ag ef: a'r adeg hon hefyd y canodd ei awdl ardderchog i Syr Gruffydd Llwyd, o Drefgarnedd, yn Mon-ac yr oedd yn byw yn aml yn Dinorwig, sef y Llys.

Ymunodd Syr Gruffydd Llwyd a Madog, mab ordderch i'r tywysog Llewelyn, i godi yn erbyn trethiad Iorwerth ar y Cymry, y rhai y pryd hwnw a ruthrasant i dref Caernarfon ar ddiwrnod ffair, ac a laddasant bob Sais o'i mewn; torasant ben Syr Roger de Poleston, yr hwn oedd y pen-trethydd. Yn ngwyneb hyn, daeth Iorwerth i Gymru, a daliodd y penaethiaid Cymreig yn y gwrthryfel yma, a maddeuodd iddynt eu holl wrthryfelgarwch, ar yr amod na byddai iddynt gyfodi yn erbyn ei lywodraeth ef mwy, ac os gwnaent felly drachefn, bygythiai y byddai iddo ddifodi y Cymry, fel cenedl, oddiar wyneb y ddaear; ac ni wnaeth â Madog, y pen gwrthryfelwr, ond ei garcharu dros ei oes yn y Tŵr yn Llundain. Dyma brawf amlwg o dynerwch y brenin, ac efallai gormod prawf i neb feddwl y buasai y cyfryw un yn merthyru y beirdd mewn gwaed oer, am ganu ychydig i'w penaethiaid: a phe buasai rhywun yn cael ei ferthyru, Gwilym Ddu fuasai hwnw,—oblegyd canodd ef yn lled annheyrngarol i'r Saeson, yn ei awdl i Syr Gruffydd Llwyd, panoedd ef ac eraill o'r penaethiaid