Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr ystyr yw "Porth y Frwydr." Tybia eraill ei fod yn tarddu o ddau wreiddyn gwahanol—Porto yn Lladin am hafan, a Bello yn Ffrancaeg am brydferth; ac yn ol y syniad yna, yr ystyr yw "Hafan ddymunol, neu brydferth.

Baron Hill.-Preswylfod Syr R. W. BULKELEY. O berthynas i darddiad yr enw baron, tybia rhai ei fod wedi tarddu o'r gair breyr, a'r gair breyr yn tarddu o'r gwreiddyn Cymreig bre, sef bryn—yr hyn a arwydda un yn cynal ei lysoedd barn ar lethr bryniau yn yr awyr agored; ystyr Baron Hill yw " bryn y breyr." Dywed Lewys Dwnn, arch—Herodr cyffredinol holl Gymru o'r flwyddyn 1550 hyd 1580, mai pan oedd Fitshamon a'i farchogion yn cymeryd meddiant o wlad Morganwg, iddo glywed y trigolion yn galw eu hunain wrth yr enwau brenin Morganwg, brenin Gwent, brenin Dyfed, &c., iddo gyfansoddi gair yn ei iaith ei hun yn arwyddo'r un peth—" barwn," sef dyn o radd uchel—yn ol y Gymraeg, arlywydd, neu arglwydd. Ond feallai mai ei fenthyca a wnaeth o'r Almaenaeg, oblegyd Baron ydyw y gair yn yr iaith hono, os felly, yr ystyr yw "Bryn yr ar lywydd, neu arglwydd."

Adeiladwyd yr anedd-dy hwn yn 1618. Cyn yr amser hyn yr oeddynt fel teulu yn byw mewn lle o'r enw "Court Mawr," yn y dref; ac ar ol hyny, mewn tŷ arall oedd yn cael ei alw "Hen Blas." Trinwyd ac ail adeiladwyd Baron Hill gan y diweddar LORD BULKELEY, dan gyfarwyddid Mr. SAMUEL WYATT, arch-adeiladydd. Gorsedd Migen.—Saif y lle hwn rhwng Cadnant a Beaumaris; ystyr yr enw yw "gorsedd enciliedig!". Tybir iddo dderbyn yr enw oddiwrth chwareuyddiaethau oedd yr arferedig yn yr hen amserau ar ddydd y Sulgwyn.