Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr unig ddyfyrwch neillduol yn yr wyl hon fyddai dawnsio y gwrywiaid oll fyddai wrth y gwaith hwn, wedi eu trwsio ag ysnodenau, a clychau bychain wrth eu penliniau. Byddai dau o honynt bob amser yn fwy hynod na'r lleill, y rhai a elwid yn "Ffwl," a "Migen;" gwryw wedi ei wisgo mewn dillad benyw, oedd Migen, ac wedi duo ei wyneb, i gynrychioli hen wraches. Byddent eill dau yn dyfyru yr edrychwyr gyda cu castiau digrif; a Migen fynychaf fyddai yn derbyn arian gan y bobl, ac yn cadw y lluaws ymaith trwy fygwth eu taraw â lledwad; a thybir mai oddi wrth hyn y cafodd y lle ei enwi. Tybia eraill iddo dderbyn yr enw oddiwrth Meigen Hen—Meugan, ap Cyndaf Sant, gŵr o'r Israel—yr un, fel y dywed rhai, a Mawan y ganrif gyntaf. Efe a wnaeth gapel Meugan Hen, yn Mhorthwygyr (Beaumaris), ac yn agos i orsedd Migen.

Cadnant.—Ystyr y gair yw, "Nant y Gad," lle y bu brwydr waedlyd ryw bryd.

Y mae Beaumaris yn fwrdeisdref hyfryd, a phrif-dref Mon. Saif mewn lle prydferth gerllaw y mor, ac oddi yma ceir golygfa ardderchog ar fryniau Caernarfon. Y mae llywodraethiad y dref hon mewn meddiant Corphoriaeth a wnaed trwy weithred seneddol yn ddiweddar, yn gynwysedig o Faer, pedwar Henadur, a deuddeg Cynghorwr, yn nghyda Swyddogion cynorthwyol eraill. Gwethrediadau y gorphoriaeth a wneir yn neuadd y dref, a chynhelir yr assizes yn llys y wlad ddwy waith yn y flwyddyn. Cynhelir llys gwladol, yr hwn sydd yn meddu llywodraeth dros holl wlad Fon, yn Llangefni, er codi dyledion o unrhyw swm heb fod uwchlaw £ 50. Hefyd, ceir yma ymdrochle gyfleus, a fynychir gan filoedd