Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

etholwyr yn y fl. 1832 oedd 1,187; ac yn 1866 yr oedd ynt yn 2,352. Cyfanswm ardreth yr eiddo anghyffro yw 172,156p. a'r swm a delir i'r faeldreth yw 6,896p. Yr aelod preşenol dros y sir yw R. Davies, Ysw. Cyn y f. 1868, Syr Richard B. W. Bulkeley, Barwn., o Baron Hill, Beaumaris, oedd yr Arglwydd-raglaw dros y sîr. Bu hefyd yn aelod seneddol dros y fwrdeisdref o 1830 i 1833, a'r sîr o 1833 i 1837; a dros swydd Ffint o 1841 i 1847; ac oddiar hyny hyd y fl. 1868, dros Fôn. Proffesa fod yn rhyddfrydwr. Ei oed yw 71.

PLWYF LLANFAES

.

Saif y plwyf hwn oddeutu milldir i'r gogledd o Beaumaris. Cysegrwyd yr eglwys i St. Catherine, yn y fl. 700, & sylfaenwyd y Priordy yn y fl. 1237, gan Llewelyn ap Iorwerth. Bu farw ei wraig Joan, sef merch у brenin John, a chladdwyd hi yma yn y fl. 1237. Ceir darlun o honi yn Nghaerlleon heddyw; a dyma gopi o'r argraff sydd arno:

"This Antique and beautiful Oil Painting, was given by
SIR ROBERT W. BULKELEY, BART.,
of Baron Hill,
To STEVEN EVANS.
His Grandson Steven Roberts has caused it to be thus restored,
There is strong reason to believe this Portrait to represent
Princess Joan, the Consort of Llewelyn ap Iorwerth,
who was interred at Llanfaes Abbey,
1237."

Cleaned lined and restored
by Robert Wilson Williams,
Menai Bridge Town, 1853.

Oddeutu y fl. 818, bu yma frwydr waedlyd rhwng Egbert brenin y Saeson, a'r Cymry, yn amser Merfyn Frych. Tardda enw Llanfaes oddiwrth y ffaith fod yr