eglwys wedi ei hadeiladu ar y maes lle bu y frwydr grybwylledig.
Cododd Llewelyn ap Iorwerth gofadail coffadwriaethol i fedd ei brïod Joan, o barch iddi hi ac i'w thad. Hefyd, dywedir fod mynachlog i Franciscan Friars wedi ei godi ar fedd Joan, yr hwn a gysegrwyd i St. Francis, gan Howell, Esgob Bangor, a llywydd y priordy yn y fl. 1240; ac yn y flwyddyn hon y bu farw yr Esgob hwn, yn nghyd a Llewelyn ap Iorwerth. Bu yn lle o sylw mawr fel man claddedigaeth yn yr hen amser. Claddwyd yma amryw farwniaid a marchogion, y rhai a laddwyd yn rhyfeloedd y Cymry. Tra parhaodd gwrthryfel y Cymry, o dan Madoc yn nheyrnasiad Iorwerth I., llosgwyd y lle hwn i'w sylfaeni gan y terfysgwyr, a pharhaodd yn adfeiliedig hyd nes yr adgyweiriwyd ef gan Iorwerth II.; yr hwn mewn ystyriaeth o'r anffawd a ddyoddefwyd gan y myneich, a faddeuodd iddynt y tâl dyledus o 12p. 108., y rhai a delid i'r goron yn flaenorol i'r frwydr hon. Bu myneich Llanfaes yn ffafriol i wrth ryfel Owain Glyndwr yn erbyn Harri IV., yr hwn mewn dial am yr ymddygiad yn yr ymgyrch cyntaf yn erbyn Owain, a anrheithiodd y crefydd-dŷ, a lladdodd amryw o'r myneich â'r cledd, a chludodd y gweddill yn garcharorion. Ar ol hyn rhyddhawyd hwy ganddo. Hefyd, adferodd y priordy hwn i'w hen ragorfreintiau a'i feddianau cyntefig; ond ar yr un pryd, gosododd ynddo fyneich o waedoliaeth Saesnig. Wedi hyn, ymddengys i'r lle hwn dderbyn niwaid oddiwrth rhyw ddyhirod, neu iddo syrthio i adfeiliad: ond adferwyd fe drachefn trwy fraint ysgrif Harri V. Trefnodd hwn fod y sefydliad i gynwys wyth myneich, ac o'r rhai hyn yr oedd dau o frodorion Cymru. O'r ysbaid hwn, parhaodd ef yn