Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flodeuog hyd y dadgorphorwyd ef. Yny cyfnod yma, ystyrid ei ardreth yn 96p. 13s. 2g. Rhoddodd Harri VIII., yn y flwyddyn deuddeg-ar-hugain o'i deyrnasiad, y lle hwn yn anrheg i Nicholas Brownlow, a phrynwyd ef wedi hyn gan deulu White, y rhai nid ydynt ar gael yn bresenol.

Yn y fl. 1832, adnewyddwyd ac eangwyd y lle yn fawr gan ei berchenog-Syr R. B. Williams Bulkeley, Barwn., yr hwn yn achlysurol a drigai yma. Gelwir y lle yn Friary, oblegyd ei fod yn sefyll ar safle yr hen briordy. Yn y f. 1870, uwch ben y porth bwäog yn y cyntedd nesaf i mewn, yr oedd tarian yn cynwys Eirbais Collwyn ap Tagno, Arglwydd Eifionydd ac Ardudwy-sylfeinydd un o bymtheg llwyth Gwynedd, a chyn rhïant teulu White. Yn ngwaelod y darian y mae argraff y fl. 1623. Tybir fod cyfeiriad y flwyddyn hon at adeiladiad y lle yma ar y dechreu gan y teulu hwn.

Y fywiolaeth eglwysig sydd guradiaeth yn Archddeoniaeth Môn ac Esgobaeth Bangor. Gwaddolwyd hi gyda 400p. o roddion Seneddol; a dywedir ei bod wedi ei rhoddi dan nodded Syr R. B. Williams Bulkeley, Barwn, yn y fl. 1832. Gwel "Topographical Dictionary of Wales," gan Samuel Lewis.

Adgyweiriwyd yr eglwys hon yn y fl. 1811, ar drael Arglwydd Biscan Bulkeley, a chysegrwyd hi i St. Catherine. Hefyd, y mae yma elusendy i ddeg o dynion tlodion; ond yn ol y Parch OWEN JONES, i wyth o ddynion. Sylfaenwyd ef gan David Hughes, o Woodrising, yn swydd Norfolk, yn y f. 1609. Yr oedd y tlodion hyn i gael dwy ystafell bob un, a chymorth o chwe' swllt yn wythnos bob un, a chwe' llath o frethyn tewban bob un yn flynyddol a'r ddydd Gwyl Domos; tri o'r rhai