Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyddent i gyfranogi o'r elusen hon i gael eu dewis o blwyf Llantrisant, lle y ganwyd y rhoddwr: dau o blwyf Rhodwy-geidio, dau o blwyf Llechgynfarwy; ac un o blwyf Ceidio. Ac wedi darparu ar gyfer y rhai hyn efe a drefnodd, os byddai yn weddill, ar iddo gael ei ranu rhwng tlodion Llantrisant.

Hefyd, rhoddodd Lady Bulkeley 1000p. yn gymunrodd o dan ymddiriedaeth Archdeoniaeth Môn, ynghyd a gweinidog Llanfaes, i rann eu llôg rhwng tlodion Llanfaes. Wrth dramwyo rhodfeydd prydferth Baron Hill, ceir golwg ar arch-faen y Dywysoges Joan, neu Joana, priod Llewelyn ap Iorwerth, tywysog Gwynedd, yr hon â gladdwyd yn Mhriordy Llanfaes, fel y crybwyllwyd uchod. Wedi dadgorfforiad y mynachdai, bu yr arch hon am oddeutu dau cant a haner o fl. yn gafn dwfr i ddiodi anifeiliaid, heb fod neb yn gwybod i ba beth y gwnaed hi ar y cyntaf. Ond, fel yr oeddynt yn chwalu rhyw hen adfeilion er gwneuthur rhyw gyfnewidiadau ac ad gyweirio tua'r Friars amryw flynyddoedd yn ol, dargan fyddwyd cauad yr arch. Yna deallwyd mai arch y Dywysoges ydoedd y cafn dwfr; a'r diweddar Arglwydd Bulkeley a adeiladodd deml yn ei barc er anrhydedd i goffadwriaeth y dywysoges, yn yr hon y parodd gyfleu yr arch i'w chadw yn ddiogel ac yn barchus.

Porth Lleiniog.—Y tebygolrwydd ydyw i'r lle hwn gael ei alw oddiwrth enw person. Y mae lle arall yn nghwmwd Menai o'r enw Cell Lleiniog. Ychydig bellder oddiwrth y pentref y mae Castell Aberlleiniawg amddiffynfa bedair-onglog fechan, gyda gweddillion tŵr crwn ar bob ochr, ac wedi ei amgylchu gan ffos. Sylfaenwyd yr amddiffynfa hon yn fl. 1096, gan Hugh Lupus, Iarll Caerlleon, a Hugh, Iarll yr 'Amwythig.