Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o Langoed. Cysegrwyd yr eglwys hon i Iestyn ap Geraint, ap Erbyn, ap Cystenyn, & c., yn y chweched ganrif. Cafodd y plwyf hwn ei enw am fod orllewin yr eglwys wedi ei chysegru i'r Iestyn yma.

Pen-yr-Orsedd.—Lle, ond odid, y cynhelid y llysoedd neu brawdlysoedd, gan y barnwyr yn yr hen amser.

PLWYF LLANFIHANGEL-DIN-SYLWY

Ymddengys fod enw y plwyf yma yn tarddu oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St Michael: ac oddi wrth y Castell oedd gan yr hen Frythoniaid, yr hwn a fu yn ddefnyddiol i'r Rhufeiniaid yn y cwr yma o'r ynys.

Gelwid ef "Din," neu "Dinas Sylwy," h.y., castell i edrych allan neu i wylio. Gelwid yr amddiffynfa hon yn "Fwrdd Arthur;" ystyr y gair Arthur yw dyn cryf. Rai blynyddau yn ol cafwyd yma amryw ddarnau o arian bathol, a rhai eilunod Rhufeinig.


PLWYF LLANDDONA

Saif y plwyf hwn rhwng Llan Iestyn a Llanfihangel-Din-Sylwy, ac yn agos i'r ffordd sydd yn arwain o Beaumaris i Bentraeth. Cysegrwyd yr eglwys i St. Dona, ap Selyf, ap Cynan, Carwyn ap Brochwe! Togythrog, yn y seithfed ganrif. Derbyniodd y plwyf yr enw uchod oherwydd fod yr eglwys wedi ei chysegrui St. Dona. Tybir gan rai ei fod o'r un ystyr a'r gair Donum, am rodd, ac mai ei ystyr yw Rhodd-Lan.

Cremlyn.—Enw ar ffermdy yn mhlwyf Llanddona; tybir fod yr enw yma yn tarddu o'r gair Cremium, "flesh fried in a pan". Seilir y dybiaeth ar ansawdd y lle sydd ar gyffiniau Din-Sylwy a Llanddona. Dywedir fod yno greigiau noeth a serth ar lan y môr, (gelwir y lle "Nant Dienydd," a'r traddodiad yw, y rhoddid y Cristionogion i