Rhyd-y-delyn, neu Rhyd-elyn, ond yn fwy cywir Rhyd Elen: rhyd ydyw afon, ac elen yw amaethdy. Y mae hwn yn lle tra hynafol.
Mynydd Llwydiarth.—Tardda yr enw hwn o'r geiriau llwyd ac arth, a'r ystyr yw, "Mynydd yr arth lwyd."
Y mae llyn ar yr ochr ddwyreiniol i'r mynydd, yn nglyn a'r hwn yr oedd traddodiad cyffredinol yn Nghymru, yn nghylch yr " Ychain Banog." Dywedid iddo gael ei gysegru i goffadwriaeth y dylif, ar lan yr hwn y cyflawnent eu defodau, trwy gyfleu ar wyneb y dwfr fath o ynys nofiadwy, goediog, yn yr hon byddai y coffr cysegredig a gynrychiolai yr arch, yn guddiedig. Yr ynys hon a dynid i dir gan ddau o'r ychain mwyaf allent gael yn yr holl fro, y rhai, o'r herwydd, a elwid "ychain banog"; a'r ddefod hon, debygir, yw yr hyn a elwid yn "tynu yr afanc o'r llyn." Y mae man ar y ffordd fawr o Bentraeth i Borthaethwy, a elwid "gallt y Plasgwyn," o'r lle y gwelir tair o lanau ar unwaith, sef Llanddyfnan, Llanbedrgoch, a Llanfair-Bettws-Geraint; y traddodiadau yw, i'r afanc a dynid gan yr "ychain banog," pan gyrhaeddoedd i'r llanerch dan sylw, a gweled tair eglwys ar unwaith, dori ei galon a threngu.
Tair Naid, ac Abernodrwydd.—Y mae y cyntaf yn enw ar faes bychan yn agos i Plasgwyn, a'r llall yn enw ar afonig fechan heb fod yn mhell o'r lle; ond nid adnabyddir hi wrth yr enw hwn yn awr. Yn y lle a elwir "Cae tair naid," codwyd tair o geryg ar eu penau er dynodi neidiadau Gwalchmai ap Meilir. Mae y traddodiad am y lle hwn rywbeth yn debyg i hyn:—Prïododd Gwalchmai ap Meilir aeres Plasgwyn; yn fuan ar ol y