Gerllaw y groes ddywededig, cedwid marchnad ers tua saith ugain mlynedd yn ol; yr hon, efallai, a ddechreuodd pan oedd crefydd-dy a elwir "Ysbytty Gwion " yn ei rwysg. Y mae adfeilion lluaws o adeiladau ar gael perthynol i Blas Gronwy, a elwid "Bryn-y-neuadd."
Y mae yn amlwg fod yma gladdfa hefyd yn rhyw oes: oblegyd wrth gloddio yn y lle, cafodd diweddar Morys Williams esgyrn dynol, a chareg wrth ei ben, ac un arall wrth ei draed: maluriodd yr esgyrn yn llwch wrth eu cyffroi,—ond yr oedd y dannedd yno yn berffaith. Mae yr hen adfeilion hyn yn gorchuddio tua haner erw o dir, rhwng Plas Gronwy a'r ffordd fawr. Ai tybed mai nid adfeilion yr hen grefydd-dŷ crybwylledig yw y rhai hyn?
Deallir fod un Gwy Ruffus, neu, fel y gelwid ef gan y Cymry, "Gwison Goch," yn Esgob Bangor, yn agos i ddiwedd y ddeuddeg fed ganrif, sef tua'r adeg y sefydlwyd y crefydd-dai a elwid "Ysbyttai," mewn amryw fanau yn y dywysogaeth. Dywedir iddo farw yn y f. 1199, pan etholwyd Giraldus Cambrensis, arch-ddiacon Brycheiniog, i esgobaeth Bangor; ond, efe a wrthododd yr anrhydedd a gynygid iddo. Gellir casglu oddiwrth wahanol seiliau fel hyn, mai dyma y "Gwion Goch" a adeiladodd yr Ysbytty crybwylledig, ac yr enwyd Llanbedr-goch oddiwrtho; hefyd, y mae lle a elwir "TyddynWion" ar ochr ogleddol ynys Môn, yn agos i Llanfairynghornwy, yn nghwmwd Tal-y-bolion, yn cael ei enw oddiwrth y Gwion yma. Yr oedd yn y gymydogaeth hono, pan wnaed yr Extent, etifeddiaeth a elwid "Gwely Gronwy ap Gwion," "Gwely Madog ap Gwion," a gwely Einion ap Gwion." Y mae yn dra thebyg