There is a covered way, or hollow entrance to the vault under this mound, or heap of stones."
Am ystyr y gair Llanfairmathafarneithaf, gwel Llanbedr-goch.
PLWYF LLAN SADWRN.
Saif y plwyf hwn yn y rhan ddwyreiniol o'r ynys, ac oddeutu pedair milldir o Pont Menai. Cysegrwyd yr eglwys yn y chweched ganrif i St. Sadwrn hen, ap Ynys Gaer Gawch, sant o Bangor Asaf. Derbyniodd y plwyf yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i'r sant hwn.
Enw Cymraeg yw Sadwrn ar un o'r gau-dduwiau a addolid gan yr hen Frythoniaid, yn ogystal a'r rhan fwyaf o genhedloedd Ewrop ac Asia. Ystyr yr enw yw, "gŵr nerthol o fraich i ryfel:" y gwir enw yw Sawddwrn, Dywedir yn " Hanes Crefydd yn Nghymru," t.d., 158, am Sadwrn, mai mab Bicanys, a chefnder Emyr Llydaw, ydoedd.
Castellior.—Wedi i'r Cadfridog Rhufeinaidd Agricola oresgyn ynys Mon a'i harchwylio yn fanwl, efallai iddo adael ar ei ol rai cof-golofnau o'i enw. Yn y parth pellaf i'r gorllewin mae lle o'r enw "Criccill;" mae yn debyg fod yr hen Frythoniaid yn ei alw felly oddiwrth enw Agricola, fel y cafodd lle yn mhlwyf Llanidan ei alw yn Crug, neu Crig, oddiwrth yr un person. Sefydlodd Agricola gadrodau mewn dau o leoedd gwahanol yn yr ynys hon; gelwir hwy wrth yr enwau—Castellior, Dominorum castra (fortress of lords.) Y mae castell yn arwyddo amddiffynfa Rhufeinig, a iôr yn air yn yr hen Frythonaeg am arglwydd, neu lywydd; felly yr ystyr yw, "amddiffynfa yr arglwyddi." Heb fod yn mhell oddiyma ceir lle arall o'r enw Bodior, h.y., trigfa y