Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

37 Lleoedd yn Mon. llywydd. Hefyd, ceir lle arall eto yn nghwmwd Tal- y bolion, a elwir Presaddfed (praesidii locus - trigfa'r

llywydd , neu lys barn y llywydd ).

Gwneir y gair i fyny

mewn rhan o'r gair lladin, praesido- (llywydd) ; a gair Cymraeg seddfod , am lys barn, ac felly yr ystyr yw Llys barn y Llywydd.”

Plwyf LLANFAIR- Pwll-GWYNGYLL. Y mae y plwyf hwn yn sefyll oddeutu pedair milldir i'r de-orllewin o Fangor, yn nghwmwd Tindaethwy.

Tardda yr enw mewn rhan oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Mair, a'i bod yn agos i drobwll dych rynllyd yn nghulfor Menai. Ffurfir y trobwll hwn gan ymchwydd y môr, yr hwn a dorir yn wyn ar y creigiau : pan ar drai isel, a dim ond y creigiau isaf wedi eu gor chuddio, bydd y môr - lanw yn rhuthro yn arswydus yn y lle hwn ; oherwydd hyny y gelwid ef yn “ Bwll-tro.” 99

Bydd yn beryglus i longau fyned yn agos iddo y pryd hyn -- delir hwy weithiau gan y rhyferthwy (current ), a

hyrddir hwynt yn erbyn y creigiau sydd yn ymddangos uwchlaw y wyneb . Gelwid y lle hwn gan forwyr Cymru

yn Bwll Ceris ; ac edrychid arno ganddynt, fel yr ed. rychid ar Scylla a Charybdis gan forwyr Sicily. O ber thynas i enw y lle hwn, sylwa un awdwr fel hyn : - “ It should have been Keris, and not Ceris . In Mr. Vaughan , of Hengwrt's MSS of Nennius, it is “ Pwll Kerist ;" cerissa is only a fanciful derivation ."

II. CWMWD MENAI. Y mae y gair cwmwd yn tarddu o'r geiriau cyd a bod ( to dwell together ) ; ac o'r gair cwmwd y tardda y gair cymydog. D