Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dinas, (a City.) Dun in the Irish signifies a 'fool,' and Dunam, 'to shut up,' to inclose."

Yr oedd y dref hon yn perthyn i freninoedd Lloegr hyd amser y frenhines Elizabeth, pan y dosranwyd hi yn ddwy ran. Gwerthwyd un ran i Hugh William, Glany-gors; ac yr oedd yn eiddo i Coningsby Williams yn 1710. Trefnwyd y rhan arall i William Jones, mab i John ap William Pugh, yr hwn oedd yr amser yma yn dir-feddianydd. Trefnwyd terfynau Dinam mewn côflyfr—oddiwrth Rhyd Dinam hyd y ffordd fawr i Cae'r Slatter; oddiyno i Crochan Caffo, ac yn mlaen i Malltraeth; yna i Lon Goed, ac yn mlaen hyd y ffordd i Hen Shop: oddiyno drachefn trwy'r ffordd i Ben-yr-orsedd, yn mlaen hyd y ffordd i Sarn Dudur, hyd afon Bodowyr, a therfyna yn Rhyd Dinam.

PLWYF LLAN IDAN.

Saif y plwyf hwn oddeutu saith milldir i'r de-orllewin o Fangor. Cafwyd yr enw hwn oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i un o'r enw Aidan. Tybir gan rai mai mab i Gabranus, neu Gwrnyw, yr hwn oedd wŷr i Urien Rheged, tywysog Regedia, yn y gogledd, ydoedd; ond tybia eraill mai Aidan yr esgob-yr hwn oedd yn cael ei alw Aidan Foeddog of Columcil—ac esgob Llandisfern. Y dybiaeth olaf yw'r gywiraf, oblegyd fod Ffinan, i'r hwn yr oedd eglwys wedi ei chysegru mewn lle arall, yn ddysgybl diweddaf i Aidan, yn ei ganlyn ef yn ei esgobaeth, ac yn cymeradwyo gwaith da ei feistr Aidan. Tybir i'r eglwys hon gael ei chysegru yn y bumed ganrif. Yr oedd perigloriaeth a'r holl blwyf hwn wedi eu cysylltu â chrefydd-dy Bethgelert, gyda