Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynys hon, ac nid arosant yn hir ynddi un amser.

Ond os wrth y Gwyddelod y meddylir y preswylwyr a ddaethant gyntaf iddi, fel y mae yn debygol, cyll y ddadl gyntaf ei grym; oblegyd cyfansoddir y gair hwn o ddau air Cymraeg, sef gwydd a hela, y rhai efallai a ysgrifenid "Gwyddelod," i arwyddo dynion, ac yn enw cyffredin ar y preswylwyr cyntaf. Dywed Dr. W. O. Pughe There is a tradition of Wales being once inhabited by the Gwyddelians, or more properly, its first inhabitans were so called: and the common people in speaking of it, ascribe some ruins about the country under the names of "Cytiau y Gwyddelod," to them: and the foxes are said to have been their dogs, and the polecats their domestic cats, and the like.

Wedi i'r preswylwyr yma ymadael o'u preswylfeydd cyntaf, ac ymdaenu dros y wlad yn wahanol dylwythau, dechreuasant sefydlu eu hunain mewn adeiladau mwy a rhagoarch, y rhai cyn hir a elwid yn "Bod," neu Bodau," h.y, trigle neu le i fod; ac, i wahanaethu y naill oddiwrth y llall, cysylltwyd enwau y sylfaenwyr neu'r adeiladwyr a'r gair Bod, megys, Bod-Eon, Bod-Ewryd, Bod-Edeyrn, Bod-Ychain, Bod-Filog, Fod-Owyr, &c.

Y bodau hyn, efallai, oedd y prif leoedd perthynol i bob ardal: a thebygol yw mai rhai yn meddu cryn ddylanwad yn y wlad oedd preswylwyr y rhan fwyaf o honynt.

Mae y gair Bodowyr yn tarddu o'r geiriau bod am drigle; ac ofydd am un yn mhlith y Derwyddon yn astudio phisygwriaeth—ond yn awr defnyddir y gair am un yn dysgu elfenau cyntaf barddoniaeth. Yr ystyr yw,