Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Trigfa ofwyr (habitation of the Eubates) neu, trigfa Offeiriadau Derwyddol,

Bu y lle hwn unwaith yn eiddo un o'r enw Evan Wyddel, yr hwn oedd yn preswylio yma. Ymddengys i'r dref hon, gyda Myfyrian, gael eu cysylltu â Phorthamel. Gwerthwyd y lle gan Hwlkin ap Dafydd ap Evan Wyddel, i William ap Griffith, mab Gwilym o'r Penrhyr, yn agos i Fangor.

Tre'r Driw.—Y mae'r enw yma yn cael ei wneyd i fyny o'r ddau air,—Tref, am drigfa, a Driw, am benaeth y Derwyddon-yr Arch-dderwydd. Yr ystyr yw, trigfa yr Arch-dderwydd, neu Tre'r Driw (the Druids Town.)

Rhoddwyd y dref hon, gan un o dywysogion Cymru, i St. Beuno, o Clynog Fawr, yn Arfon, fel yr ymddengys oddiwrth hen fraint-ysgrif a grybwyllir gan Mr. Rowlands; ac ymddengys oddiwrth yr un ysgrif, fod deiliad tir yn y lle hwn yn mwynhau amryw ragorfaeintau, a gwnaethpwyd hyn y fwy eglur gan orchymyn Gibbert de Talbot, Llys-Ynad Gogledd Cymru, yn amser Harri VI., yr hwn a ddyddiwyd yn Beaumaris, yn y 12fed flwyddyn o deyrnasiad Harri, O.C. 8412.[1]

Yr oedd adfeilion hen gapel yn weledig yn agos i Tre'r Driw, yr hwn a elwid "Capel Beuno": ac yr oedd hen gloch yn y ty hwn yn cael eu galw "Cloch fechan Beuno." Y mae yma ddau dŷ yn cael eu gadw Tre'r Driw isaf a Tre'r Vwri uchaf; a dau arall yn cael eu galw Tre'r Ivan a Thre' Vwri, a rhai a roddwyd yn gymunrodd gan y Parch. Robert White, o Friars.

Yn 1762, cafodd y Parch. H. Rowlands, pan yn arolygu symudiad rhai o'r ceryg yn y lle hwn (mewn trefn i wneud ymchwyliad i hynafiaethau y lle,) hyd i fathodyn

  1. Diawl y wasg? Roedd Harri VI yn frenin Lloegr am y tro cyntaf o 1422 tan 1461, felly 1444 O.C. byddai'r 12fed flwyddyn o'i deyrnasiad