(medal) arddechog o bres, a llun y Gwaredwr arno, mewn cadwriaeth dda, yr hwn a ddanfonwyd ganddo i'w gyfaill a'i gydwladwr, y Parch. E. Llwyd, awdwr yr "Archæological Britannica," ar y pryd hwnw, yn arolygu llyfrgell Ashmoleum, yn Rhydychain.
Y Bathodyn Pres.—Fel hyn y darlunir ef gan un—"Y mae ar un ochr i'r bathodyn hwn lun pen, yr hwn sydd yn cyfateb yn gywir i'r darluniad a roddir gan Piblius Lentitius o'n Gwaredwr, mewn llythyr a ddanfonwyd at yr Ymerawdwr Tiberius, a chynghorwr Rhufain." Ar yr ochr arall i'r bathodyn y mae yn ysgrifenedig mewn llythyrenau Hebraeg:—"Dyma Iesu Grist y Gyfryngwr-ddyn."
Yn gymaint a bod y bathodyn yma wedi ei gael yn mysg gweddillion trigfanau y prif Dderwyddon, nid yw yn annhebygol ei fod yn perthyn i ryw Gristion oedd gyda Bran Fendigaid, yr hwn oedd yn perthyn i fyddin Caractous yn Rhufain, oddeutu 52 O.C., ar yr amser yr oedd yr Apostol Paul yn pregethu efengyl Crist yn Rhufain. Yn mhen ychydig wedi hyn, dinystriodd y pen-cadben Rhufeinig Suctonius yr holl Dderwyddon oedd yn Ynys Môn. Gwelir copi o'r llythyr henafol y cyfeiriwyd ato yn "Golud yr Oes," tudal. 418.
Tre'r Beirdd, ac, mewn rhai hen ysgrifau, Trefynerd a ;Trefeyrd: y mae'r enw Tre'r Beirdd wedi tarddu oddiwrth fod y lle wedi bod yn drigfa prydyddion; oddiwrth beth y tarddodd yr enw Trefynerd, y mae yn anhysbys.
Rhoddwyd y dref hon gan y tywysog Owen Gwynedd, a chadarnhawyd y peth gan y tywysog Llewelyn, i Cynric ap Meredydd Ddu, fel y dengys yr hen weithred a ad-ysgrifenwyd ac a ddygwyd allan gan Mr. Rowlands.