Bu ef yn pertruso am hir amser yn nghylch pa le a feddylid wrth Trefynerd, gan nad oedd unrhyw le o'r enw. yn nghwmwd Menai, ond rhoddodd yr hen weithred a ganlyn eglurhad ar y dyryswch:—"Bydded hysbys i bawb, trwy y tystiolaethau hyn fy mod i Iorwerth ab Dafydd ab Carw, rhydd-ddeiliad i Briordy Bethgelert, yn nhrefred Tref-beirdd, yng nghwmwd Menai, swydd Môn, wedi rhoddi caniatad i werthu, a gollwng yn heddychol, ac am byth, i Cynric ab Meredydd Ddu, a'i fab Ithel, rhydd-ddeiliaid, neu eu dirprwywyr yr holl diroedd yn nhrefred Berw, ac yn nhreflan Tref-beirdd, ynghyd a'u holl berthynasau, trwy ganiatad Mr. Cynhalin, Prior Bethgelert; ac yr ydwyf wedi rhoddi a chaniatau, a gollwng yn heddychol, ac am byth, i'r rhagddywededig Cynric ab Meredydd Ddu, a'i fab Ithel, a'u hetifeddion neu eu dirprwywyr, fy holl diroedd yn Glasynys, yn y drefred rag—ddywededig Tref-beirdd; ynghyd a'u perthynasau a'u rhyddid, y rhai a derfynir o un tu gan ynys y meirch, gyferbyn a Threfarthen; ac o'r tu arall gan Gwawr Walchmai, cyfwyneb a Thref y Beirdd.—I feddianu ac i ddal y tiroedd enwedig genyf fi a'm hetifeddion rhag-ddywededig; ac fod i Cynric ac Ithel a'u hetifeddion, neu ddirprwywyr, feddiant rhydd a heddychol, trwy hawl tref-tadol yn dragwyddol; yn nghyd a gallu i roddi, neu werthu, neu eu trosglwyddo, y pryd y mynont, ac i'r neb y mynont. A myfi y rhag-ddywededig Iorwerth, neu'm hetifeddion, a gadarnhawn y cyfryw drosglwyddiad-rhôdd, a hawl heddychol yn erbyn pob rhyw bobl, ac a amddiffynwn yr unrhyw ar ein traul ein hunain. Er tystiolaeth o hyn, rhoddais fy sêl ar y weithred bresenol, a'r personau canlynol ydynt dystion ac ymddiriedolwyr:—Evan ap Gwilym, ap Rathro, Ein-
Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/56
Gwedd