Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ion ap Cynwrig ap Madyn, Madog ap Iorwerth ap Bleddyn, Iorwerth ap Howel ap Tegeryn Ddu, ynghyd a llawer eraill. Rhoddwyd ym monachlog Llanidan, ar ddydd Gwener, trwy awdurdod sedd y Tad Sanctaidd, yn y 34ain flwyddyn o deyrnasiad Edward III, Braint Lloegr, ym mlwyddyn ein Harglwydd 1360."

Gwelir oddiwrth yr ysgrif hon mai trefred Tre'r Beirdd sydd i'w ddeall wrth y Trefynerd dan sylw.

'Tref Arthen.—Yr Arthen y cymerwyd yr enw oddiwrtho ar y dref hon oedd mab Cadrod Hardd; ystyr yr enw yw—' Trigfa arthes ieuanc,' (A bear's cub, or young one.)

Yr oedd gan Cadrod etifeddiaethau eang yn yr ynys hon: rhoddodd i Gwerid, ei cyntaf anedig, Trefadog, yn Tal-y-Bolion; i Ednyfed, Tref Ednyfed, yn nghwmwd Llifon i Owen, Isefowen; ac i Sandde ac Ithon, ei feibion o'r ail wraig, Dref Fodafon; a rhoddodd y dref hon i Arthen, ei fab ieuangaf.

Myfyrian.—Yr enw, mae yn bur debyg, a dardd o'r gair myfyr (meditation) a cheir lle arall o gyffelyb ystyr yn agos i Geryg y Druidon, yn sir Ddinbych, sef Dyffryn Myfyr, h.y., dyffryn myfyrdod. Yr oedd y lle hwn ar y dechreu yn gysylltiedig â bwrdeisdref Porthamel; y mae dau Myfyrian-uchaf ac isef. Rhai o'r enw Prytherch oedd yn y lle hwn gyntaf, cyn myn'd i Llanidan. (Myfyrian uchaf.)

Tref Wydrin.—Y mae yn dybygol i'r enw yma darddu oddiwrth Gwydd-fryn; yr ystyr yw, "Trigfa uchel eglur" (a conspicious eminence.)

Berw, Biriw, neu Meriw.—Tarddai oddiwrth fod coed meryw yn tyfu yma—fel yr oedd Ysgeifog yn tarddu