Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddiwrth ysgaw; Eithinog, oddiwrth eithin, Rhedynog oddiwrth rhedyn, &c. Dosbarthwyd y faerdref hon yn yn ddwy—Berw Uchaf a Berw Isaf. Berw Uchaf sydd yn mhlwf Llanfihangel Ysgeifiog, a Berw Isaf yn Llanidan. Cysylltwyd y ddiweddaf ar y cyntaf â bwrdeisdref Tre'r Beirdd ; ac yr oedd yn rhan o'r tiroedd a pha rai yr anrhegwyd Cynric ap Meredydd Ddu a hwy.

PLWYF LLAN EDWEN.

Saif y plwyf hwn oddeutu pum' milldir i'r gogleddddwyrain o Gaernarfon. Cafodd y plwyf yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Edwen, nith neu ferch i'r brenin Edwin; adeiladwyd yr eglwys oddeutu y chweched ganrif. Ystyr yr enw yw, "Llan y ddedwydd orchfyges."

Porth Amel.—Y mae Mr. Rowlands yn cynyg tair o wahanol amcan-dybiau gyda golwg ar darddiad yr enw hwn—1. "Porth Aemelicus," (Rhufeiniwr); 2. "Porth Aml," oddiwrth rifedi y personau oedd yn myned drosodd, ac yn dychwelyd dros Moel-y-dòn gyda bad; 3, "Porth ym Mwlch." Y mae yn ymddangos ei fod ef yn rhoddi y flaenoriaeth i'r olaf. Porth Amel, yn yr hen amser, oedd yn faenor, ac yn eiddo Llywarch ap Bran, yn nghwmwd Menai.

Plas Newydd.—Trigfa newydd (the new mansion); yr hen enw oedd Llwyn Moel. Yr ystyr yw "Llwyn ar fryn," (the grove on the hill). Yma ceir un o'r coedwigoedd penaf yn Môn, yr hwn le a gysegrwyd gan y Derwyddon fel lle addoliad. Tu cefn i Plas Newydd y mae cromlech aruthrol, neu allor y Derwyddon—un o'r rhai mwyaf yn yr ynys. Coed y Plas Newydd ydynt eang;