Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae rhifedi mawr o esgyrn dynol yn wasgaredig ymhob cyfeiriad; y rhai'n a dybir oedd gweddillion o'r dynion a gwympodd wrth warchae Ynys Gefni. Yn agos i'r dref y mae "Chalybrate Spring," yr hwn darddell oedd ar y cyntaf mewn bri mawr, ond yn awr yn ddyladwy i gymesuredd a dwfr arall; gyda'r hwn y mae effeithiolrwydd meddyginiaethol i'r rhai a wanhawyd gan afiechyd.

Hefyd, o berthynas i afon Cefni, ceid ar lafar gwlad oddeutu triugain mlynedd yn ol, yr hyn a ganlyn:-Bu cyfnod o sychder ar Ynys Fôn i'r fath raddau fel y bu llawer o'i thrigolion farw o syched: ni cheid dwfr yn un man ynddi; yr oedd godrau'r cymylau wedi eu rhwymo, a ffynonau y dyfnder fel wedi myned yn hysp. Yn y cyfnod hwn, rhoddwyd careg fawr yn afon Cefni a'r ar graff ganlynol arni—'Pwy bynag am gwel i a wyla,' gan gyfeirio at ymysgaroedd y wlad yn teimlo o eisiau dwfr.

Yn y "Gwyneddon" ceir y sylwadau dyddorol a ganlyn am blwyf Llangefni:—"A large common, called Rhos-y-meirch, is in this parish; and on the west side of the turnpike-road is a chalpheate spring in great repute for rheumatic complaints. In this parish is Lledwigan, where a thresher, of the name of Morris Lloyd, heroically and successfully resisted, and defeated several of Oliver Cromwell's soldiers."

PLWYF TRE' GAIAN.

Saif y plwyf bychan hwn ar derfyn y tri cwmwdMalltraeth, Menai, a Tindaethwy. Y Rhandir Tre' Gaian sydd yn nghwmwd Menai, a'r Arddreiniog yn Tindaethwy. Yr oedd y ddau hyn ar y cyntaf yn rhan o randir Ednyfed Fychan, gweinidog a chadfrīdog i Llewelyn ap Iorwerth. Rhoddodd ef y tri rhandir