Pen Mynydd, Tre' Castell ac Arddreiniog, i'w fab Gronw; a Thudur Hen ap Grow a ddosranodd ei etifeddiaethau rhwng ei dri mab, Gronw, Howel, a Madoc. Etifeddiaeth Tudur oedd Pen Mynydd, lle y trigodd am amryw flynyddau. Bu farw yn Friars, Bangor, yr hwn le a adeiladwyd ac a waddolwyd ganddo ar y 9fed dydd o Hydref, 1311. Bu Howel ei fab farw heb hiliogaeth. Madoc oedd Archddiacon Môn, ac yn ben ar fynachlog Conwy. Gronw, y mab ieuengaf, a gafodd etifeddiaeth ei frawd Howel. Claddwyd y Gronw hwn yn Bangor, Rhagfyr 11eg, 1331, a gadawodd ei fab Tudur yn etifedd-a'r Tudur hwn, yr hwn a fu byw yn Tre' Castell, a adawodd bump o feibion ar ei ol, rhwng pa rai y rhanodd efe ei etifeddiaeth; claddwyd ef yn Friars, Bangor, Mai 9fed, 1367. Ei feibion oeddynt Gronw, Ednyfed, Gwilym, Meredith, a Rhys. Gronw oedd etifedd Pen Mynydd; i'r hwn yr oedd merch, yr hon a briododd William Griffith, ap Gwilym o Penrhyn, Bangor; a mab o'r enw Tudur Fychan.
Ednyfed ail fab Tudur ap Gronw, a enillodd Tre' Castell yn dref-dadaeth. Gadawodd yntau ddwy ferch yn gyd-etifeddion, sef Anghared a Myfanwy. Anghared, yr hon oedd yn meddu Tre' Castell yn etifeddiaeth, a briododd gyda Evan ap Adda, ap Iorwerth Ddu o Tegengl, yn sir Fflint; a'u mab Evan Fychan a briododd Anghared merch Howel ap Tudur, o Fostyn, lle y preswyliodd wedi hyny yn nghyd a'i hiliogaeth hyd o fewn deng mlynedd yn ol, os nad hyd heddyw, ac yn cymeryd meddiant o'r lle.
Mae hiliogaeth Gwilym, trydydd mab Tudur ap Gronw, wedi darfod, neu nad oes gwybodaeth am danynt.
Meredith, y pedwerydd mab, oherwydd rhyw achos