neu gilydd, a adawodd ei gartref, ac yn y cyfamser ganwyd ei fab Owen (o weddw Harri V). Ei bumed mab, Rhys, a ddaeth yn feddianol o Tre' Gaian a'r Arddreiniog; yr hwn a addawodd ei eiddo i'w ferch Gwerfil, yr hon a briododd Madoc ap Evan, ap Einion o Penarth, Abercyn, yn Eifionydd, yr hwn a adawodd y lle i'w fab Howel ap Madoc; ac yntau a'i gadawodd i'w fab Rhys, oddiwrth yr hwn y disgynodd i'w fab Rhydderch. Yr oedd y cyntaf o holl deulu y Rhydderchiaid a'r Prytherchiaid oedd yn yr ynys. Bu Rhys ap Tudur ap Gronw farw, a chladdwyd ef yn Friars, Bangor, yn y fl. 1412.
Bu dyn yn byw yn y plwyf hwn o'r enw William ap Howel ap Iorwerth, oddeutu y fl. 1580, yn gant a phump oed. Priododd dair o wragedd, a chafodd dri-a-deugain o blant o honynt: o'r gyntaf dau-ar-hugain, a rhwng yr ieuengaf a'r hynaf yr oedd 81 o flynyddau. A chyn ei farw, yr oedd yn meddu uwchlaw tri chant o hiliogaeth! Cysylltwyd capel Tre' Gaian a pherigloriaeth Llangefni. Noddwr y fywioliaeth ydyw Esgob Bangor. Cysegrwyd yr eglwys i St. Gaian, yn y bumed ganrif; yr ystyr yw "Llan-y-rhwyd-fan-bysg."
PLWYF LLANTRISANT.
Mae'r plwyf hwn yn sefyll oddeutu pedair milldir i'r gorllewin o Lanerchymedd. Tardda yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i dri o seintiau,—St. Afran, St. Ieuan, a St. Savan, y rhai a'i sylfaenasant gyntaf yn y fl. 570.
Oddeutu milldir o bentref Llantrisant, yn nghwmwd Talybolion, ar lan yr afon Alaw, y mae "Ynys Bronwen." Yn y mabinogion Cymreig ceir yr hyn a ganlyn:-"Cynhaliai Bran ap Llyr Llediaith ei lys yn